| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
11/06/2007 - Arweinydd newydd i Sir Ddinbych

Cadarnhawyd y Cynghorydd Hugh Evans fel Arweinydd newydd Cyngor Sir Ddinbych 

Mewn Cyfarfod arbennig yn Neuadd y Sir heddiw - dydd Mawrth  - pleidleisiodd Cynghorwyr yn unfrydol i ethol y Cynghorydd  Evans.  Fo oedd yr unig Gynghorydd i'w enwebu i fod yn Arweinydd.

Llofnodwyd ei enwebiad gan y Cynghorwyr  canlynol:

·        Jeanette Chamberlain Jones (Arweinydd y grŵp llafur)
·        Michael German (Arweinydd  Cynghrair Democratig Cymru)
·        John Smith (Ysgrifennydd  y grŵp Annibynnol)
·        Dewi Owens (Arweinydd y grŵp Ceidwadwyr)
·        Gwyneth Kensler (Arweinydd grŵp Plaid Cymru)
·        Bob Barton (Democrat Rhyddfrydol Cymreig di gyswllt)
·        Paul Marfleet (Annibynnol heb gyswllt)

Cyhoeddodd y Cynghorydd Evans y bydd yn derbyn portffolio Dysgu Gydol Oes ac ef fydd yr Arweinydd cyntaf yn Sir Ddinbych i wneud hyn tra'i fod yn Arweinydd.

Meddai'r Cynghorydd Evans: "Rwy'n falch o  gael fy ethol yn Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych. Mae'r Cyngor Sir yn ddiweddar wedi datblygu llawer mewn sawl gwasanaeth gan gynnwys cyflwyno cynllun ailgylchu bob pythefnos, cyflwyno canolfan  gwasanaethaucwsmer, gwario ar ffyrdd ac adeiladau Ysgol, i enwi dim ond rhai.

"Neges allweddol i fy nghyflwyniad heddiw yw "hefo'n gilydd fe wnawn dda ". Mae cyd weithio yn gwneud gwir wahaniaeth a byddwn yn adeiladu ar y gwaith da a wneir eisoes. Ein blaenoriaeth yw gweithredu Cynllun Gweithredu Estyn a moderneiddio Addysg yn Sir Ddinbych, ac mae gan y Cyngor Sir ymroddiad i godi safonau addysg yn y sir a gweithio hefo'r Ysgolion i gynnig addysg o'r radd orau i'n Plant a Phobl Ifanc.

"Bu materion eraill ar y gweill yn Sir Ddinbych gan gynnwys tai fforddiadwy, y cynllun datblygiad lleol a rheolaeth gwastraff.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0