Beth yw Lwfans Tai Lleol?
Fe gyflwynir Lwfans Tai Lleol yn Sir Ddinbych o Ebrill 7 2008 a’r bwriad yw rhoi gwell dewis i denantiaid ynglŷn â lle maen nhw’n byw. Mae’n decach hefyd, oherwydd:
• Gyda Lwfans Tai Lleol fe gewch yr un faint o fudd-dal â phobl sydd yn yr un amgylchiadau â chi. Gyda Budd-dal Tai, fel rheol byddai pobl oedd yn byw mewn eiddo llai neu lai dymunol yn cael llai o fudd-dal na phobl oedd yn byw mewn eiddo mwy neu fwy dymunol.
• Fe allwch chi ddewis faint o’ch budd-dal yr ydych am ei wario ar rentu eiddo. Er enghraifft, gallwch ddewis dalu mwy am eiddo mwy. Neu gallwch rentu eiddo llai a defnyddio gweddill y budd-dal ar gyfer pethau eraill.
• Gallwch ffeindio faint o Lwfans Tai Lleol sydd ar gael i chi cyn rhentu eiddo. Gyda Budd-dal Tai efallai y byddai’n rhaid i chi aros am sawl wythnos i ddarganfod faint yr oeddech am ei dderbyn.
• Os byddwch yn cael Lwfans Tai Lleol fe delir y budd-dal i chi. Eich cyfrifoldeb chi yw talu’r rhent i’r landlord yn yr un ffordd â thenantiaid eraill nad ydyn nhw’n derbyn budd-dal.
• Os ydych chi’n chwilio am swydd byddwch yn gwybod faint o fudd-dal yr ydych yn debygol o’i gael os dowch chi o hyd i un.
• Byddwch yn dod i wybod am eich Lwfans Tai Lleol yn gynt na am Fudd-dal Tai.
Talu eich rhent
Fel rheol fe delir eich Lwfans Tai Lleol yn uniongyrchol i chi. A’ch cyfrifoldeb chi yw talu’r rhent i’ch landlord. Os na thalwch y rhent fe allwch gael eich troi allan o’r eiddo. Os nad oes gennych un yn barod efallai y carech agor cyfrif banc. Felly gallwch dalu’r rhent yn syth i’r landlord drwy archeb sefydlog neu ddebyd uniongyrchol. Gallwch gael cyngor am agor a chynnal cyfrif banc mewn unrhyw fanc neu gymdeithas adeiladu o’ch dewis chi. Mae gennym restr o fanciau a chymdeithasau adeiladu lleol i’ch helpu. Gallwch gael cyngor hefyd gan sefydliadau lles fel Cyngor ar Bopeth.
Os ydych yn poeni am ddelio â’ch arian, gofynnwch a gallwn ni eich helpu. Mewn achosion arbennig efallai y gallwn dalu eich rhent i’ch landlord.
Newid amgylchiadau
Os byddwch yn symud i gyfeiriad newydd neu os yw amgylchiadau eraill yn newid, dylech roi gwybod i ni yn syth. Efallai y bydd angen i chi wneud cais newydd am Lwfans Tai Lleol.


Rhoi adborth ar y tudalen hon