| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Lwfans Tai Lleol – tenantiaid sy’n agored i niwed

Lwfans Tai Lleol – tenantiaid sy’n agored i niwed


Fe rheol fe delir Lwfans Tai Lleol i’r tenant.  Ni all y tenant benderfynu i’w Lwfans Tai Lleol gael ei dalu i’r landlord.  Ond fe allwn dalu Lwfans Tai Lleol i’r landlord os penderfynwn fod tenant yn agored i niwed.


Beth mae agored i niwed yn ei olygu?
Mae agored i niwed yn golygu rhywun sydd efallai’n cael trafferth i reoli eu harian.  Nid yw hyn yn golygu rhywun sydd ddim eisiau talu rhent.


Pwy sy’n penderfynu pwy sy’n agored i niwed?
Y cyngor sy’n penderfynu os yw tenant yn agored i niwed.  Mae’n rhaid i ni gael tystiolaeth na all y tenant reoli ei arian.  Fel rheol mae’n rhaid i’r dystiolaeth fod yn ysgrifenedig.  Mae’r bobl a all roi tystiolaeth yn cynnwys:


• Y tenant
• Ffrindiau a theulu’r tenant
• Y landlord
• Grwpiau lles (yn cynnwys cynghorwyr ariannol)
• Gwasanaethau Cymdeithasol
• Meddyg Teulu
• Swyddogion prawf
• Canolfan Waith Plus
• Y Gwasanaeth Pensiwn.


Fe wnawn gydweithio â’r tenant i wneud ein penderfyniad.


Pwy all fod yn agored i niwed?
Mae yna lawer o resymau pam na all rhywun reoli eu harian.  Fe all tenant sy’n agored i niwed fod yn rhywun sydd:


• â phroblemau dyledion garw;
• â dedfryd Llys Sirol ddiweddar yn eu herbyn;
• yn fethdalwr heb ei ryddhau;
• yn analluog i agor cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu;
• â’u Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’r cwmni nwy, trydan neu ddŵr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau;
• yn derbyn cymorth Cefnogi Pobl;
• yn derbyn cymorth gan elusen ddigartrefedd.


Fe allwn ystyried a yw’r tenant yn agored i niwed os yw’r tenant:


• ag anawsterau dysgu;
• â salwch sy’n eu rhwystro i ddygymod o ddydd i ddydd;
• yn methu darllen Saesneg;
• yn methu siarad Saesneg;
• yn gaeth i gyffuriau, alcohol neu amblo;
• yn ddigartref.


Efallai fod yna resymau eraill pam fod rhywun yn agored i niwed.  Gofynnwch i ni am fwy o wybodaeth.  Mae manylion ar sut i gysylltu â ni i’w cael ar waelod y ddalen hon.


Gwneud penderfyniad
Unwaith y byddwn wedi casglu tystiolaeth fe benderfynwn cyn gynted ag sydd bosib a yw’r tenant yn agored i niwed.  Fe ddaliwn i dalu Lwfans Tai Lleol i’r tenant tra byddwn yn gwneud ein penderfyniad.  Fe hysbyswn y tenant ei fod yn agored i niwed.  Fe ysgrifennwn at y tenant i esbonio’r penderfyniad.


Adolygiadau ac apeliadau
Os bydd y tenant neu’r landlord yn anghydweld â’n penderfyniad gallant apelio.  Mae’r rheolau ynglŷn â hyn yr un â’r rheolau ar gyfer Budd-dal Tai.  Gofynnwch i mi am ragor o wybodaeth.  Ceir manylion am sut i gysylltu â ni ar waelod y ddalen hon.
Gallwn edrych ar y penderfyniad eto.  Gelwir hyn yn adolygiad.  Fel rheol bydd hyn yn digwydd wedi cyfnod cytûn.


Cyngor ariannol
Gall tenantiaid gael help i reoli eu harian gan sefydliadau fel Cyngor ar Bopeth

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0