Dylid hyrwyddo Bryniau Clwyd fel y bluen yn het Gororau Gogledd Cymru, yn ôl adroddiad drafft ar sut i greu strategaeth dwristiaeth gynaliadwy ar gyfer Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd.
Yn seiliedig ar ganlyniadau ymgynghoriadau, adolygiadau a chasgliadau, mae awduron yr adroddiad yn awgrymu mai’r ffordd ymlaen ar gyfer strategaeth dwristiaeth i’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) yw hyrwyddo’r dirwedd eithriadol mor eang ag sydd bosib.
Mae’r dirwedd sy’n genedlaethol bwysig a harddwch golygfaol Bryniau Clwyd yn rhinweddau sy’n denu twristiaid. Mae twristiaeth yn rhan allweddol o’n economi leol ac mae’n sector yr hoffem ei gweld yn tyfu, ond ni ddylai hyn danseilio ansawdd sylfaenol y dirwedd sy’n denu’r twristiaid yn y lle cyntaf.
Mae’r adroddiad yn cynnwys cynllun pum mlynedd i helpu troedio’n ofalus rhwng annog ymwelwyr a rhoi gwahanol brofiadau iddynt ac ar yr un pryd sicrhau fod yr ardal yn parhau i gael ei diogelu.
Mae’r adroddiad yn datgan y dylid rhoi blaenoriaeth uchaf i gadwraeth yr amgylchedd a datblygu profiadau amrywiol i ymwelwyr drwy gyfleusterau a gwasanaethau o ansawdd uchel wedi eu seilio ar weithgareddau awyr agored.
Mae Bryniau Clwyd yn un o ond pump o AHNE a thri pharc cenedlaethol yng Nghymru. Fe’i cyfanheddwyd am filoedd o flynyddoedd gyda gweddillion safleoedd Oes y Cerrig cynnar a llawer o henebion claddu ar hyd y gefnen o fryniau tonnog.
Mae’r bryniau wedi eu coroni hefyd gan gyfres o fryngaerau Oes yr Haearn sy’n cael eu cyfri’n rhai o nodweddion amlycaf yr ardal.
Unwaith y derbynnir y cynllun, gobeithir y caiff strategaethau eu sefydlu i helpu cynyddu ymwybyddiaeth o Fryniau Clwyd a’r oll sydd ganddynt i’w gynnig i ymwelwyr yn ogystal ag annog a chefnogi mentrau perthynol i dwristiaeth yn yr ardal.

Rhoi adborth ar y tudalen hon