O Ebrill 7 2008 byddwn yn cyflwyno ffurf newydd ar Fudd-dal Tai o’r enw Lwfans Tai Lleol (LTLl). Mae hwn ar gyfer tenantiaid sy’n rhentu eiddo gan landlordiaid preifat.
Beth yw Lwfans Tai Lleol?
Mae LTLl yn ffordd newydd o weithio allan Budd-daliad Tai. Mae LTLl ar gyfer pobl sydd ar incwm isel ac sy’n rhentu gan landlordiaid preifat. Mae LTLl wedi ei seilio ar nifer y stafelloedd a ganiateir i bobl, nid faint yw’r rhent. Mae nifer y stafelloedd a ganiateir yn dibynnu ar bwy sy’n byw gyda’r tenant. Gofynnwch i ni am fwy o fanylion am hyn.
Pa landlordiaid sy’n cael eu heffeithio gan y Lwfans Tai Lleol?
Mae LTLl yn effeithio ar unrhyw landlord sy’n gwneud cytundeb tenantiaeth breifat ddadreoledig gyda pherson sy’n derbyn Budd-dal Tai. Mae dadreoledig yn golygu cytundeb a wnaethpwyd cyn 1989 nad yw’n dod dan un o’r eithriadau a restrir isod.
Pwy sydd ddim yn cael eu heffeithio gan y Lwfans Tai Lleol?
Nid yw LTLl yn effeithio ar:
• denantiaeth gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig
• achosion a amddiffynnir, fel tai lle ceir cefnogaeth a ddarperir gan awdurdodau lleol arbennig, landlordiaid cymdeithasol, elusennau a sefydliadau gwirfoddol• denantiaeth sy’n eithriedig o gyfyngiadau rhent cyfredol
• denantiaeth mewn carafán, cwch preswyl a hostel
• denantiaeth lle bydd y swyddog rhent yn penderfynu fod rhan helaeth y rhent ar gyfer bwyd a phresenoldeb, fel llety mewn gwesty.
Sut mae Lwfans Tai Lleol yn effeithio ar landlordiaid?
Y unig newid i ran fwyaf y landlordiaid yw y telir y LTLl i’r tenant. Y tenant fydd yn gyfrifol am dalu eu rhent i’r landlord.
O gydnabod y risg y gall rhai tenantiaid ei chael yn anodd cymryd cyfrifoldeb am dalu’r rhent, fe roddir dull diogelu ar waith. Yn hytrach na chyflwyno rhestr fanwl o amgylchiadau y gellir talu i’r landlord, rhoddwyd disgresiwn i ni nodi’r fath achosion. Gallwn benderfynu talu’n uniongyrchol i’r landlord mewn nifer o amgylchiadau yn cynnwys:
• os teimlwn y bydd y tenant yn debyg o gael trafferth i reoli eu hamgylchiadau ei hun. Rydym wedi galw hyn yn ‘agored i niwed’. Gallai enghreifftiau o hyn gynnwys tenant gydag anhawster dysgu neu broblem cyffuriau neu alcohol fyddai’n golygu problemau i reoli cyllideb. Mae gennym gyngor manwl ar yr hyn a olygir wrth ‘agored i niwed’ o ran LTLl
• os credwn fod y tenant yn annhebygol o ddefnyddio ei LTLl i dalu ei rent. Gall hyn fod pan wyddom fod y tenant wedi methu’n rheolaidd â thalu rhent yn y gorffennol
• pan fydd y LTLl wedi ei ôl-ddyddio neu fod yna ohiriad wrth brosesu cais a bod swm sylweddol o fudd-dal i’w dalu. Yn yr achosion hyn fe allwn benderfynu gwneud taliad cyntaf y LTLl mewn siec yn daladwy i’r landlord, er y cawsai ei anfon at yr hawliwr. (Mae hyn yr un fath â Rheoliad Budd-dal Tai 94) Hefyd disgwylir y bydd gwneud y taliad cyntaf i’r landlord yn arwydd da fod y denantiaeth wedi ei sefydlu mewn gwirionedd.
• os yw’r tenant wedi pentyrru rhent dyledus o wyth wythnos neu fwy a bod taliad uniongyrchol i’r landlord wedi ei weithredu (dan reoliadau Budd-daliad Tai cyfredol), gallwn benderfynu parhau i wneud taliadau uniongyrchol i’r landlord pan fydd yr ôl-ddyledion wedi disgyn o dan wyth wythnos
• os yw’r tenant yn cael didyniadau o’i Gymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith i ad-dalu rhent dyledus.
I weithredu unrhyw un o’r dulliau diogelu hyn, newydd a phresennol, mae’n rhaid i’r cyngor gael tystiolaeth ddogfennol.

Rhoi adborth ar y tudalen hon