Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi ymrwymo i atal ac i ymchwilio i Dwyll Budd-dâl.
Mae’r Cyngor eisiau i bawb sydd yn gymwys i hawlio budd-daliadau wneud cais amdanynt. Fodd bynnag, tra bod y rhan fwyaf o bobl yn hawlio’n onest mae yna nifer fechan sy’n camddefnyddio’r system. Drwy’r wlad, mae miliynau o bunnau’n cael eu dwyn fel hyn pob blwyddyn. Mae hyn yn effeithio’n uniongyrchol ar faint o Dreth y Cyngor y mae trigolion Cyngor Sir Ddinbych yn ei dalu, yn ogystal ag yn lleihau faint sydd ar gael i’r rheini sydd mewn angen yn go iawn.
Mae gan Adran Gydymffurfio’r Cyngor dîm un pwrpas sy’n ymchwilio i honiadau o gamddefnydd. Ble down ni o hyd i dystiolaeth o gamddefnydd byddwn yn mynd ati i adennill unrhyw symiau a dalwyd yn anghywir a ble mae’n briodol yn erlyn twyllwyr, neu’n rhoi cosbau ariannol.
Gellwch helpu’r Cyngor drwy roi gwybod am unrhyw un yr ydych yn amau eu bod yn cyflawni Twyll Budd-dâl. Bydd unrhyw wybodaeth a roddwch yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol ac nid oes raid ichi roi eich enw.
Pa wybodaeth ydym ei heisiau?
Fe ddylech roi cymaint o wybodaeth ag sy’n bosib inni er mwyn inni allu sefydlu ymchwiliad.
Er enghraifft:
Enw, cyfeiriad a disgrifiad unrhyw berson y credwch eu bod yn cyflawni’r twyll,
neu unrhyw un sy’n gysylltiedig ag ef, yn cynnwys eu perthynas.
Manylion y cerbydau a ddefnyddir.
Manylion unrhyw incwm, cynilion neu eiddo sydd heb eu datgelu. e.e.
Man gweithio ac oriau gweithio.
Maint unrhyw gynilion.
Manylion cyfrifon banc neu gymdeithas adeiladu
Cyfeiriad unrhyw eiddo sydd heb ei ddatgelu.
Ble nad yw’r person yn byw yn yr eiddo -
Ble maent yn byw?
A oes unrhyw un arall yn byw yno?
Sut wyf yn rhoi gwybod am fy amheuon?
Gellwch gysylltu â’r Adran Gydymffurfio
Gellwch siarad â rhywun yn bersonol ar 01824 706345 neu 01824 706344 neu manylion cyswllt uwch.

Rhoi adborth ar y tudalen hon