Beth yw Archifau?
Beth yw Archifau?
Yn aml tybir bod archifau yn anniddorol, amherthasol, hen, cuddiedig, paparau, ond roeddech chi'n gwybod:
- Cofnodion wedi eu diogelu yw archifau a hynny oherwydd eu bod yn cynnwys gwybodaeth unigryw a hanesyddol bwysig, h.y. gwybodaeth sy’n ateb cwestiynau am ein gorffennol. Gall y cofnodion hyn amrywio o lythyrau ysgrifennwyd gan frenhinoedd a breninesau, yn dweud wrthym am orffennol ein cenedl, i gofnodion ysgol, efallai’n yn cynnwys adroddiadau am eich hendeidiau a neiniau! Mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd, felly pam na cheisiwch chi eu darganfod drwy ein mynegai ar-lein (cliciwch y linc ar y dudalen hon).
- Caiff archifau eu creu gan: unigolion, teuluoedd, busnesau, a sefydliadau (fel elusennau, eglwysi, neu lywodraeth). Maent felly’n cipio llawer o agweddau ar fywyd Prydeinig drwy’r oesoedd. Mae’n bur debyg fod eich hynafiaid chi’n ymddangos mewn archif ac mae’n debyg y byddwch chithau hefyd rhyw ddiwrnod, boed hynny’n enw mewn cyfrifiad y llywodraeth neu’n sylw wnaethoch chi ar dudalen y we?
- Gall archifau fod yn: bapurau, cyfrolau, mapiau, cynlluniau, ffotograffau, pacediadau, papurau newydd, CDs, DVDs, e-byst, tudalennau gwe; unrhyw beth sy’n cofnodi gwybodaeth.
- Nid yw archifau’n hen o reidrwydd, wedi’r cwbl mae ddoe yn hanes hefyd.
- Mae’r Archifdy’n agored i bawb. Gall unrhyw un ymweld â’r Archifdy a gofyn am gael gweld cofnod (am wybodaeth bellach cliciwch ar linc 'Oriau Agor').
Yn lle y cedwir archifau a pham?
- Mae archifau, yn gyffredinol, yn unigryw ac felly ni ellir cael un arall os collir hwynt ac felly mae angen eu diogelu rhag difrod neu golled.
- Mae archifau’n dueddol o gael eu difrodi gan: yr amgylchedd, fel gwres neu ddŵr; plâu, fel llygod a llyfrbryf; a hyd yn oed bobl – gall camdrin yr archifau achosi difrod. Gweler ein tudalen ‘Gofalu am eich cofnodion eich hun’ i weld sut y gall archifau gael eu heffeithio gan rai o’r elfennau hyn.
- Yn ddelfrydol felly caiff archifau eu cadw mewn storfeydd diogel, wedi eu dylunio’n arbennig ac wedi eu rheoli’n amgylcheddol a elwir yn ystorfa neu archifau, ac mewn defnydd pacio gwarcheidiol. Gweler ein tudalen 'Gofalu am eich cofnodion eich hun' i gael tips ar gadwraeth.
- Gofelir am archifau gan staff a elwir yn archifyddion sydd wedi eu hyfforddi’n arbennig.
Beth fydd archifydd yn ei wneud?
- Mae archifyddion yn helpu i benderfynu pa gofnodion ddylid eu cadw, gyda help canllawiau ac yn ôl polisi casglu’r archif (sydd ar gael ar y dudalen gartref).
- Bydd archifyddion yn sicrhau fod cofnodion yn aros gyda’u casgliad ac y gellir dod o hyd iddyn nhw ymysg y miloedd o gofnodion gaiff eu cadw, drwy greu catalogau – rhestrau sy’n disgrifio’r cofnodion ac yn rhoi rhif unigryw iddyn nhw sy’n cyfateb i leoliad.
- Bydd archifyddion yn sicrhau fod archifau’n cael eu diogelu rhag difrod neu golled drwy: eu glanhau, eu pacio mewn defnydd gwarcheidiol, storio mewn ardaloedd diogel sydd dan reolaeth amgylcheddol, a sicrhau eu bod yn cael eu trin yn ofalus.
- Bydd archifyddion yn cynorthwyo ymchwilwyr drwy: eu harwain at y cofnodion cywir, adalw’r cofnodion iddyn nhw, a’u helpu i’w defnyddio a’u deall.

Rhoi adborth ar y tudalen hon