Mae gan Lyfrgelloedd ar draws Gogledd Cymru gynllun darllen newydd o'r enw Aur Pur/Pure Gold i gyflwyno darllenwyr i lyfrau da yn eu Llyfrgelloedd lleol.
Mae Llyfrgellwyr o Estyn Allan y Gogledd, rhwydwaith datblygu darllenwyr, wedi dewis 12 llyfr, 6 yn Gymraeg a 6 yn Saesneg, a leolir yng Nghymru, ond gan fynd a'r darllenydd i sawl lle gwahanol.
Gall darllenwyr bleidleisio am eu tri hoff lyfr trwy daflen sydd ar gael o'r Llyfrgelloedd neu ar lein ar www.denbighshire.gov.uk/libraries. Bydd pleidleisio'n gorffen ar 31ain Ionawr, 2008.
Caiff awduron y llyfrau Cymraeg a Saesneg sy'n ennill y nifer fwyaf o bleidleisiau eu gwobr Aur Pur mewn seremoni arbennig fis Chwefror nesaf.
Bydd grwpiau darllen mewn Llyfrgelloedd ar draws Gogledd Cymru yn trafod y llyfrau ac maent yn croesawu aelodau newydd. Y nod yw dangos faint o lyfrau diddorol sydd ar gael am ddim o Lyfrgelloedd Cymru. Fe'i noddwyd trwy strategaeth marchnata Llyfrgelloedd Cenedlaethol, Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Meddai Bethan Hughes, ymgynghorydd hefo Gwasanaeth Llyfrgell Sir Ddinbych “Mae Aur Pur yn werthfawr, yn ddeniadol ac yn brin. Mae dychymyg cyfoethog yn hawdd i'w fwyngloddio a gall darllenwyr ei ganfod yn eu llyfrgell leol. Beth bynnag eich dewis mae rhywbeth yma i’ch difyrru, eich cynhyrfu a chyfoethogi eich bywyd.”

Rhoi adborth ar y tudalen hon