Comedi
The waiting roomTystysgrif 15
Mae dau unigolyn sy’n gwbl ddieithr i’w gilydd, ANNA a STEPHEN, yn cwrdd â’i gilydd ar hap drwy gyfrwng hen ddyn sy’n aros am ei wraig ar blatfform gorsaf drenau. Mae’r cyfarfyddiad yn gweithredu fel catalydd iddyn nhw ystyried a herio’r hyn sy’n digwydd yn eu perthynas gyda gwahanol bobl, a gwneud penderfyniadau anodd ond cadarnhaol i’w bywydau. Os gallant newid eu bywydau efallai y gallant gwrdd eto.
PricelessTystysgrif 12
Mae Priceless yn ailgyfleu’r ffilm glasurol, Breakfast at Tiffany's, gyda Audrey Tautou a Gad Elmaleh yn y prif rannau.
Mae Jean (Gad Elmaleh), dyn ifanc, swil, sy’n gweithio y tu ôl i’r bar, yn cael ei gamgymryd am filiwnydd gan ferch ifanc hardd o’r enw Irene (Audrey Tatou) sy’n barod i fachu ar ei chyfle. Pan fo Irene yn canfod pwy ydi o go iawn mae hi’n ei adael, ond yn canfod nad oes gan Jean unrhyw fwriad o adael iddi ddianc. Mae ymdrechion comig Jean i ennill ei chalon yn datblygu fel ei fod yn sefydlu ei hun fel ‘gigolo’ mewn gwesty moethus, nes bo Irene o’r diwedd yn dechrau dod i hoffi’r dyn ifanc llawn dyfalbarhad hwn.
Superhero MovieTystysgrif 12
Crewyr Naked Gun a Scary Movie sy’n gyfrifol am y comedi doniol Superhero Movie!
Ar ôl cael ei frathu gan was y neidr wedi’i newid yn enynnol, mae’r disgybl uwchradd disylw Rick Riker (Drake Bell) yn datblygu galluoedd uwchddynol fel cryfder anhygoel a chroen caled fel arfwisg. Mae Rick yn penderfynu defnyddio ei bwerau newydd i wneud da, ac mae’n mynd ati i atal ac amddiffyn pobl rhag troseddau wedi’i wisgo fel ‘Gwas y Neidr’.
Horton hears a WhoTystysgrif U
Un diwrnod mae Horton yr eliffant yn clywed rhywun yn gweddi am help o sbecyn llwch. Er na fedr o weld unrhyw un ar y sbecyn llwch, mae’n penderfynu cynnig cymorth. Mae’r sbecyn llwch yn gartref i’r Who’s, sy’n byw yn eu dinas Whoville. Mae Horton yn cytuno i gynorthwyo i amddiffyn yr Who’s a’u cartref, ond mae hyn yn arwain at gael ei wawdio gan ei gymdogion, sy’n gwrthod credu y gallai unrhyw beth oroesi ar y sbecyn llwch. Serch hynny, mae Horton yn cadw at y credo, “Mae person yn berson, waeth pa mor fach”.
PostalTystysgrif 18
Yn ninas Paradise, mae dyn sydd wedi colli ei waith yn ddiweddar (Zack Ward) yn ffurfio tîm gyda’i ewyrth (Foley) sy’n arwain cwlt, i ddwyn pethau gwerthfawr o’u parc difyrion lleol; rhywsut neu’i gilydd mae’r Taliban a gyrhaeddodd yn ddiweddar yn bwriadu gwneud yr un peth, ond am resymau llawer mwy sinistr.
Another Cinderella StoryTystysgrif PG
Dilyniant i fersiwn gyntaf A Cinderella Story yw’r ffilm hon yn ei hanfod, ond gyda thro modern yn ei chynffon. Mae’n canolbwyntio ar ddawnswraig ifanc (Selena Gomez) sy’n cwrdd â bachgen (Drew Seeley) mewn dawns fawreddog. Mae hi’n gollwng ei i-Pod wrth ruthro allan, ond nid oes gan y bachgen syniad pwy yw hi.

Rhoi adborth ar y tudalen hon