| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
11/08/2007 - Y Cyngor Sir yn ymateb i fesurau arafu trafig

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi adolygu ei gynlluniau am fesurau arafu traffig ar hyd Ffordd Bryn Cwnin, y Rhyl ar ôl gwrando ar ymateb a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghorol.

Yn dilyn ymarfer ymgynghorol a wnaed yn ystod yr haf cafwyd cryn wrthwynebu i'r clustogau cyflymder (hympiau ar y ffordd). O ganlyniad argymhellir cynllun gwahanol.

Cymerwyd y clustogau allan o'r cynlluniau a bydd y cynllun yn awr yn cynnwys marciau lliw toredig yn y canol, ynys traffig a dau arwydd cerbydau (vehicle activated signs). Bydd yr arwyddion hyn yn gyffelyb i rai ar Ffordd Rhuddlan.

Caiff y cynllun ei ymestyn ar hyd holl Ffordd Bryn Cwnin.

Mae Cynghorwyr Sir de'r Rhyl, Cynghorwyr Jeanette Chamberlain-Jones a Thomas Hodgson yn defnyddio eu holl ddyraniad cronfa Aelodau i dalu am y prosiect.

Bydd y Cyngor yn ymgynghori hefo preswylwyr Ffordd Bryn Cwnin a hefo Cyngor Tref Y Rhyl, cwmnïau bysiau a'r gwasanaethau argyfwng.

Anfonwch unrhyw sylwadau at Mike Jones, Adran Traffig, Cyngor Sir Ddinbych, Caledfryn, Ffordd y Ffair, Dinbych, LL16 3RU.  Y dyddiad cau yw 7fed Rhagfyr, 2007.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0