| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Gwneud Prosiect yn yr Archifau
Gweithio ar ddarllenwyr microffilm yn Archifdy Sir Ddinbych

Cynllunio’r prosiect

Yn gyntaf mae’n rhaid cael syniad clir o’r hyn y carech chi ei ymchwilio ac felly fe ddylech ystyried:

  • Ydi’r pwnc yn rhy eang? Os dewiswch bwnc eang fel hanes merched yng Nghymru, mae’n annhebygol y bydd gennych ddigon o amser i edrych ar yr holl wybodaeth angenrheidiol i gynhyrchu prosiect da neu fe fyddwch chi ar goll mewn gwybodaeth.  Ond os cyfyngwch chi’r pwnc i, er enghraifft, ferched mewn diwydiant arbennig neu dref arbennig, fe  fyddwch yn fwy tebygol o lwyddo. Fe all eich athro eich cynghori ar hyn.
  • Ydi’r wybodaeth ar gael ac ym mhle? Efallai nad yw’r cofnodion sydd eu hangen arnoch wedi goroesi, efallai nad ydynt ar gael, yn anodd eu defnyddio, neu wedi eu lleoli rywle arall, sy’n golygu na allwch chi wneud y gwaith ymchwil angenrheidiol. Gallwch weld os yw’r cofnodion perthnasol gennym ni ar ein mynegai lle, person a phwnc ar-lein neu drwy gysylltu ag aelod o’r staff.  Cofiwch y gall gwybodaeth, yn enwedig gwybodaeth gefndir, fod yn rhwyddach i’w gael a’i ddeall mewn llyfrau yn eich llyfrgell leol, neu ar y rhyngrwyd (ond byddwch yn ofalus i wirio ffynhonnell y wybodaeth, yn enwedig gwybodaeth ar y rhyngrwyd).

Ymweld â’r archifdy

  • Cyn ymweld â’r archifdy gwnewch yn siŵr fod y wybodaeth gefndir i gyd gennych chi fel y gallwch leoli’r cofnodion mwyaf perthnasol.  Mae gwybodaeth sylfaenol felly’n cynnwys: dyddiadau allweddol; ac enwau lleoedd, pobl a sefydliadau.
  • Os nad ydych wedi defnyddio’r archifdy o’r blaen, fe fydd arnoch angen amser i ymgyfarwyddo â threfn yr ystafell ymchwil fel: system docynnau RhYAS (Rhwydwaith Ymchwil Archifdai Sirol) (CARN); amseroedd agor; y rheolau (er enghraifft: pensiliau yn unig, dim bwyd na diod, ac i ddiffodd ffôn symudol); sut i leoli ac archebu cofnodion; a’r gwahanol ffynonellau sydd ar gael, fel dogfennau, mapiau, microffilm, a llyfrau llyfrgell.  Dilynwch y linc ‘Oriau Agor' am fwy o fanylion.  Fe wnaiff staff y stafell chwilio eich helpu ymhellach ar eich ymweliad.
  • Fe wnaiff staff y stafell ymchwil eich cynghori hefyd ar sut i ddefnyddio cofnodion a sut i drin defnyddiau gwreiddiol os oes angen.
  • Wrth ddefnyddio cofnodion, ysgrifennwch rif y cyfeirnod I lawr fel y gallwch ddangos lle y cawsoch y wybodaeth ac er mwyn gallu dod o hyd i’r wybodaeth eto os bydd angen.
  • Nid yw’n bosib bob amser i gael llungopïau, er enghraifft: dim ond hyd at 4 tudalen o gyfrolau rhwymedig y byddwn ni eu copïo ac ni fyddwn yn copïo deunydd bregus.  Hefyd efallai na fydd gan y staff amser i wneud copïau’r diwrnod hwnnw, felly ystyriwch y ffactorau hyn wrth gynllunio’ch amser.
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0