11/09/2007 - Ennill gwobr tai fforddiadwy
Cafodd staff o Sir Ddinbych eu gwobrwyo ag anrhydedd fawreddog yng Ngwobrwyon Tai’r DU. Enillodd Strategaeth Tai Fforddiadwy’r Cyngor anrhydedd ‘Darparu Dewisiadau Tai a Thai Fforddiadwy’ yn seremoni wobrwyo’r diwydiant.
Roedd y Strategaeth mewn cystadleuaeth galed gyda Chaerdydd, Birmingham, Notting Hill a Sentinel (Basingstoke).
Yn ymuno â’r Cynghorydd Ken Hawkins yn y seremoni roedd staff o’r adran dai, cynllunio a gwasanaethau cyfreithiol a phartneriaid o Gymdeithasau Tai Wales & West, Pennaf a Thai Clwyd.
Nid dyma’r tro cyntaf i’r Cyngor gael ei enwebu am wobr Tai’r DU – mae hyn yn dangos yn glir fel y mae’r diwydiant yn ystyried y gwaith a wneir yn Sir Ddinbych fel enghraifft o ymarfer gorau y dylid ei amlygu ar lefel genedlaethol.

Rhoi adborth ar y tudalen hon