| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
11/12/2007 - £50k o fuddsoddiad yng nghaffi Loggerheads


Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cyhoeddi partneriaeth newydd fydd yn gwario dros £50,000 i wella'r caffi ym mharc Gwledig Loggerheads sy'n eiddo i Gyngor Sir Ddinbych

Dechreuwyd y gwaith a gobeithir y bydd Caffi Florence yn agor ganol mis Rhagfyr.

Meddai Huw Rees, Prif swyddog Cefn Gwlad Sir Ddinbych : “Rydym yn falch o weithio hefo Florence, cwmni lleol, i wella'r caiff a gwneud yn siŵr bod y cyfleusterau a'r bwyd sydd i'w gael yno yn deilwng o gefn gwlad hardd Parc Gwledig Loggerheads .”

Dywedodd rheolwraig y cwmni , Jane Clough ei bod am ddefnyddio'r cynhwysion tymhorol gorau, cynnyrch lleol a'i baratoi'n fresh.  Bydd byrbrydau, cawl cartref, coffi a the, prydau poeth a chacennau ar gael yno

Mae cynlluniau ar y gwaith i gysylltu Caffi Florence a gwaith y Parc Gwledig. Dros y Pasg gwneir cacennau Pasg yn y caffi. Yn cyd-fynd a'r gweithdai daeareg darperir cacennau "rock cakes" ac yn dilyn teithiau gwylio adar bydd cyfle i wneud cacen i fwydo adar.

Meddai Vanessa Warrington, swyddog Cefn Gwlad Sir Ddinbych: “Rydym eisoes yn cynllunio rhaglen 2008 ac mae hi'n dda gweithio hefo Caffi Florence i gyflwyno pobl ifanc i'w hamgylchedd naturiol er mwyn iddynt allu dysgu mwy am fwyd a gynhyrchwyd yn lleol.”

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0