11/13/2007 - Cynlluniau tai Prestatyn i fynd o flaen y Cyngor Sir
Bydd ceisiadau cynllunio 51 eiddo newydd ger Tip Lane, Prestatyn, a ohiriwyd yr wythnos ddiwethaf yn awr yn mynd i'r Cyngor Sir llawn ar Dachwedd 20fed.
Rhoddir cynnig i'r Cyngor Sir yn gofyn am siarad yn gyhoeddus ar y cais hwn. Bydd y Cyngor Sir yn cysylltu hefo'r rhai sydd wedi gofyn am gael siarad am y bwriad o ddatblygu Tip Lane yn y Pwyllgor Cynllunio.
Bydd dau gais cynllunio arall ym mynd at y Cyngor Sir llawn :
45/2007/0851 - 78 Stryd Fawr, y Rhyl - newid defnydd cyn Glwb Trwyddedig i ffurfio estyniad i ganolfan Adloniant Oedolion.
27/2007/0395 - tir i'r de o gapel Bethesda, Pentredwr, Llangollen - Datblygu 0.1 hectar o dir trwy godi 3 annedd fforddiadwy a gosod offer trin preifat ( cais allanol).

Rhoi adborth ar y tudalen hon