Oes gennych chi lythyrau, ffotograffau, dyddiaduron, toriadau o gylchgronau, e-bost, tudalennau’r we yr hoffech chi iddyn nhw oroesi mewn cyflwr da? Yna dilynwch y cyngor isod:Papur:
Gwneir difrod i bapur, papur modern yn arbennig, gan: olau; gwres; lleithder; mowld; plâu; triniaeth; ac asid o’r tu mewn i’r papur, deunydd pacio, rhwymiad, ac oddi wrth ddwylo, felly i atal y gwaethaf o’r rhain bydd rhaid:
- Eu trin yn ofalus gyda dwylo glân.
- Gwneud gwaith cadwraethol syml, yn cynnwys: brwsio unrhyw faw oddi ar y cofnodion; tynnu clipiau papur, styfflau, bandiau lastig, rhwymwyr metal, ac unrhyw blastig; a phaciwch nhw mewn amlenni neu focsys di-asid.
- Peidiwch defnyddio gludion ar gofnodion.
- Peidiwch lamineiddio cofnodion.
- Storiwch gofnodion yn fflat ond peidiwch fflatio neu ddad-blygu gydag unrhyw nerth.
- Storiwch gofnodion i ffwrdd oddi wrth olau llachar, gwres, ardaloedd tamp, ffynonellau dŵr, ac ardaloedd lle bydd plâu’n debygol o fyw.
- Ystyriwch gopïo eitemau bregus neu printiwch e-bost neu dudalennau’r we ar bapur di-asid ac yna eu storio i ffwrdd oddi wrth bapur arall.
Ffotograffau:Caiff ffotograffau ar bapur eu heffeithio yn yr un ffordd â phapur ond gallant fod yn fwy tueddol i gael eu heffeithio gan wres, golau, ac asid oddi ar ddwylo. Yn ogystal â’r uchod dilynwch y cyfarwyddiadau isod:
- Gafaelwch yn yr ochrau neu’n ddelfrydol defnyddiwch fenig cotwm.
- Storiwch mewn amlenni neu albwm di-asid ond peidiwch defnyddio albwm ffotograffau magnetig neu ludiog.
Hefyd cofiwch gofnodi’r bobl a’r lleoedd yn y ffotograffau gan y byddwch yn debygol o’u hanghofio mewn blynyddoedd i ddod. Gwnewch hynny drwy ysgrifennu wrth ymyl y ffotograff yn yr albwm neu os oes angen gyda phensel 2B ar gefn y llun.
Cofnodion Electronig:Mae’r cofnodion storir yn eich cyfrifiadur, disgiau, a ffyn cof, hefyd yn debygol o gael eu colli neu eu difrodi. Gall data, er enghraifft, gamu’n hawdd a bod yn annarllenadwy neu gellir ei ddileu, ac mae dulliau storio’n dyddio’n sydyn - er enghraifft nid oes gan gyfrifiaduron newydd yrrwyr disg hyblyg. Gellir cymryd camau syml i ymestyn bywyd eich cofnodion electronig:
- Ystyriwch brintio’ch cofnodion ar bapur.
- Ategwch eich cofnodion oddi ar eich cyfrifiadur i ffurf storio arall, fel CD neu ffon gof.
- Storiwch i ffwrdd oddi wrth fagnedau.
- Ystyriwch ail-safio data ar ffurfiau mwy modern fel y maent yn datblygu.

Rhoi adborth ar y tudalen hon