| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Agored i Niwed a Than Anfantais

Mae diogelwch cymuned yn flaenoriaeth uchel i’r gwasanaeth hwn ac fe wneir llawer o waith mewn partneriaeth â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru.

• Gwerthu wrth y Drws  (Cysylltiad uniongyrchol)
• Parthau Dim Galwyr Di-wahoddiad

‘Galwadau diwahoddiad’, yw’r term a ddefnyddir pan fydd gwerthwr yn ymweld â’ch cartref heb ei wahodd gennych chi.  Yn aml bydd y gwerthwyr hyn yn defnyddio technegau perswadio i’ch darbwyllo i brynu ganddyn nhw.  Fe allant eich twyllo i gredu fod angen gwaith trwsio brys ar eich eiddo pan nad yw hynny’n wir.  Mae rhai pobl sydd wedi cytuno i gael gwaith o’r fath wedi eu gadael â gwaith sydd heb ei orffen er eu bod wedi talu’n llawn.  I eraill mae’r gwaith a wnaethpwyd wedi gwaethygu’r sefyllfa’n arw neu wedi gadael yr eiddo mewn cyflwr peryglus.
Drwy gydweithio’n agos â Heddlu Gogledd Cymru a Grwpiau Diogelwch Cymuned Conwy a Sir Ddinbych, mae Safonau Masnach Sir Ddinbych yn treialu parthau lle mae galw di-wahoddiad wedi ei wahardd.

 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2010 Cyngor Sir Dinbych