| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
11/14/2007 - Denbighshire's disappointment at Assembly's budget

Mae’r Cyngor wedi mynegi ei siomedigaeth gyda setliad cyllideb yr awdurdod, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf.

Mae’r dyfarniad arfaethedig ar gyfer 2008/2009 yn unol â chyfartaledd Cymru o 2.3%, ond mae hyn yn ostyngiad mawr o’r setliad o 4.7% am y flwyddyn ariannol gyfredol.

Yn seiliedig ar broffwydoliaeth gyfredol, bydd y Cyngor yn derbyn codiad o ddim ond 2% yn y setliad am 2009/10, o’i gymharu â chyfartaledd Cymru o 2.6%,  ac yna codiad o 2.2 % yn y flwyddyn 2010-11 o’i gymharu â chyfartaledd Cymru o 2.8%.


Mae’r Cyngor wedi gweithio’n ddiflino dros y blynyddoedd diwethaf i gadw codiadau mewn treth cyngor i’r isafswm eithaf, wrth gadw’r gwasanaethau gorau posibl ar gyfer pobl Sir Ddinbych.  Credwn mai dyma’r hyn mae pobl Sir Ddinbych yn ei ddymuno.


Mae yna bwysau mawr ar awdurdodau lleol i ddargludo gwasanaethau effeithiol, ond ni all canlyniad y codiad isel yn y setliad ond olygu toriadau mewn gwasanaethau llinell flaen a hyd yn oed wasanaethau gorfodol. Ni fydd Cynghorwyr am godi lefel y Dreth Cyngor er mwyn cyfarfod a’r diffyg, ond mae’r datganiad hwn yn rhoi’r Cyngor mewn lle anodd iawn, gyda phenderfyniadau anodd ei gwneud yn ystod y misoedd i ddod.

'Bydd y Cyngor yn trafod y setliad arfaethedig yn fanwl iawn a byd yn gwneud cynrychioliadau i Lywodraeth Cynulliad Cymru cyn terfyn amser Ionawr 4ydd.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0