| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
11/16/2007 - Young people having a say in Denbighshire

Bydd materion pobl ifanc a materion Ewropeaidd ar agenda cyfarfod cyntaf Ieuenctid Sir Ddinbych a gynhelir y mis yma .

Cynhelir cyfarfod Cyngor Ieuenctid Sir Ddinbych yng nghanolfan Ieuenctid Rhuthun ar Ffordd Dinbych Rhuthun, ddydd Sadwrn, Tachwedd 24 rhwng 1.30pm-4pm.

Trefnwyd y cyfarfod cyntaf fel ymateb i lefel uchel o ddiddordeb a brwdfrydedd a ddangosir gan bobl ifanc a fu yn ddiweddar yn rhan o wythnos Democratiaeth Genedlaethol, a hyrwyddwyd gan Wasanaethau Ieuenctid Sir Ddinbych.
 
Bydd y diwrnod yn cynnwys gweithdai ar Gynghorau Ieuenctid a sut maent yn gweithio gan gynnwys sesiynau ar hawliau pobl ifanc. Bydd cyfle i'r grŵp ddewis a chynllun trip preswyl am 2008.

Bydd cynrychiolwyr o Europe Direct yn bresennol a bydd yn annog pobl i ymuno a fforwm Ewropeaidd Sir Ddinbych sy'n cael ei drefnu. Mae'r Fforwm yn grŵp i bobl sydd â diddordeb mewn materion Ewropeaidd.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn am hyn ffoniwch Debbie Owens ar 01745 345234 neu e-bostiwch: debbie.owens@denbighshire.gov.uk

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0