| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
11/16/2007 - Cyfarwyddiaeth Dysgu Gydol Oes

Gall Cyngor Sir Ddinbych gadarnhau y bydd Huw Griffiths, Cyfarwyddwr Corfforaethol- Dysgu Gydol Oes i ffwrdd ar gyfnod o salwch am rai wythnosau pellach.  Mae wedi bod ar gyfnod salwch ers Hydref 9.

Yn sgil ei absenoldeb ac yng ngoleuni sylwadau gan Jane Hutt, Gweinidog Llywodraeth y Cynulliad, mae'r Cyngor wedi sicrhau trefniadau dros dro.  Dywedodd Ms Hutt y byddai'n cysidro gofyn i'r Cyngor i  sicrhau apwyntiad dros dro pe na bai'r Cyfarwyddwr Corfforaethol yn ôl yn y gwaith erbyn 20 Tachwedd.

Felly, mae'r Cyngor wedi cyhoeddi y bydd Dr Mohammed Mehmet, sy'n bresennol yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Plant gyda Chyngor Dinas Peterborough, yn ymuno â Sir Ddinbych fel Cyfarwyddwr Corfforaethol - Dysgu Gydol Oes dros dro o ddydd Llun, Tachwedd 26.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol y Cabinet dros Ddysgu Gydol Oes: "'Rwyf yn edrych ymlaen at gael gweithio gyda Mohammed i wella addysg yn Sir Ddinbych, yn unol â blaenoriaeth y Cyngor ar gyfer addysg a gwelliant addysg.  'Rwyf wedi cael fy niweddaru gyda'r trefniadau dros dro hyn ac mae'r Cabinet yn gefnogol."

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0