| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
11/19/2007 - Gatiau ali – cloi neu beidio cloi?

Mae partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Ddinbych yn holi barn pobl ar osod mwy o gatiau ali yn rhai o drefi'r sir.
Mae'r bartneriaeth eisoes wedi gosod 25 gatiau ali mewn gwahanol leoliadau o amgylch y Rhyl ac mae yn ystyried ymestyn y cynllun i ardaloedd eraill  yn y Rhyl, Prestatyn a Dinbych.  
Mae gatiau ali yn ffordd o atal trosedd, lleihau cyfle i droseddwyr megis byrgleriaeth, lladrad o geir, difrod troseddol ac ymddygiad gwrth gymdeithasol.
Meddai'r Cynghorydd Elwyn Edwards, Aelod Arweiniol Cabinet diogelwch Cymunedol, “Gatiau ali yw un o'r ffactorau sy'n cyfrannu i Sir Ddinbych  fod yn un o'r partneriaethau perfformio gorau yng Nghymuned  a Lloegr.” 
Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus yn gadael i bobl wybod beth sy'n cael ei ystyried a rhoi cyfle iddynt wneud sylwadau. Gellir gweld  copi o'r gorchmynion drafft a'r cynlluniau sy'n dangos y llwybr a effeithir ar wefan Cyngor Sir Ddinbych: www.denbighshire.gov.uk  a Siop Un Alwad Sir Ddinbych yng  Nghorwen, Dinbych, Llangollen, Prestatyn,  Rhuddlan, y Rhyl, Rhuthun a Llanelwy.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0