Cafwyd perfformiad yn Yr Hen Garchar, Rhuthun yn ail fyw bywyd un o'r cyn carcharorion mwyaf enwog.
Bu perfformwyr talentog Sir Ddinbych yn diddanu pobl hefo perfformiad o "Coch Bach y Bala", sy'n seiliedig ar fywyd John Jones, yr Houdini Cymreig. Roedd yn droseddwr oedd yn dianc o'r carchar dair gwaith yn y ganrif ddiwethaf ac fe'i saethwyd y trydydd tro a bu farw o'i anaf.
Comisiynwyd y perfformiad gan Gyngor Sir Ddinbych a chyfansoddwyd y Trac gan Sioned Webb. Roedd y Libreto gan Mair Tomos Ifans, a'r cyfarwyddo gan Carys Huw.
Cafwyd perfformiad 30 munud hefo llais, ffidil a chlogau, a bu'r gynulleidfa yn symud trwy'r carchar i gael blas ar fywyd carchar yn oes Fictoria . Cafwyd nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a'r Gymdeithas Perfoming Rights Society Foundation.
Bu Aelodau'r Urdd o Adran Rhuthun a dawnswyr o Glwb Dawns Heulfre (Ysgol Heulfre, Dinbych) yn cymryd rhan.
Meddai'r Cynghorydd Morfudd Jones, hyrwyddwr Addysg Sir Ddinbych, a fu yn y Perfformiad: "Rwy'n falch o weld pobl ifanc talentog Sir Ddinbych yn cael cyfle i berfformio mewn lleoliad mor unigryw .
Meddai'r Cynghorydd Gwyneth Kensler, Aelod Arweiniol Cabinet Hybu Sir Ddinbych: "Mae Coch Bach y Bala yn un o'r carcharorion mwyaf enwog i'w garcharu yn Yr Hen Garchar, Rhuthun a gall y cyhoedd ddysgu amdano ef a'i gyd garcharorion yn y "Cawl o Brofiad" , sydd wedi trawsffurfio' Yr Hen Garchar yn atyniad twristiaeth.
“Mae'r arddangosfa yn cynnig blas o fywyd yn oes Fictoria a hanes bywyd carcharorion Yr Hen Garchar yn Rhuthun."

Rhoi adborth ar y tudalen hon