Mae Cynghorwyr wedi rhoi caniatâd cynllunio i ddatblygu 51 annedd oddi ar Tip Lane, Prestatyn.
Yn ystod y cyfarfod o'r Cyngor Sir yn Neuadd y Sir, Rhuthun, ddydd Mawrth cytunodd Aelodau, hefo argymhellion swyddogion ac 21 Cynghorydd, i bleidleisio i ganiatáu i'r cynnig fynd yn ei flaen, hefo 16 yn erbyn ac 1 yn ymatal.
Yn yr adroddiad mae'r cynlluniau yn cynnwys safle 1.8 hectar o fewn y ffiniau datblygu. Mae'r Cynghorwyr yn fodlon hefo'r cynlluniau.
Mae rhan o'r safle o fewn Zone C1 ond bydd y rhan fwyaf o'r safle gan gynnwys lle i dai, o fewn Zone B, sy'n cael ei ystyried yn addas i bob ffurf o ddatblygiad.
Gwnaed asesiad llifogydd a chadarnhawyd bod asiantaeth yr amgylchedd yn fodlon y gellir rheoli risg llifogydd hyd lefel derbyniol hefo lefelau lleiafswm i'r llawr ar rai plotiau.
Mae asiantaeth yr amgylchedd yn argymell system dwr wyneb i'w gynnwys yn y cynllun terfynol.

Rhoi adborth ar y tudalen hon