Mae'r diwrnodau olaf yn nesáu cyn cau'r cyfnod pleidleisio a fydd pont dros y Rhyl yn dod yn realiti.
Bu Cyngor Sir Ddinbych yn edrych ar gael pont i gerddwyr a beicwyr dros Harbwr y Foryd, y Rhyl, fel rhan o gylch beicio cenedlaethol.
Mae Sustrans, elusen cludiant, wedi cael cais o'r enw ‘Connect 2’ sy'n golygu 79 prosiect cyffelyb i'r un a fwriedir yn y Rhyl. Maen nhw'n gwneud cais am un grant o £50 miliwn o gronfa'r loteri i dalu am bob un o'r 79 prosiect yn y DU.
Ar hyn o bryd, yr unig ffordd dros Harbwr y Foryd i gysylltu'r Rhyl hefo Bae Cinmel, yw’r bont las gradd dau, restredig.
Un ateb i'w ystyried yw pont droed a beicio dros yr afon Clwyd, cysylltu'r Parade a'r Harbwr - i ffurfio rhan o ddatblygiadau cynyddol gorllewin y Rhyl.
Mae 5 cais arall a chyhoeddir yn un fydd yn ennill hefo pleidlais deledu ym mis Rhagfyr.
Mae Sir Ddinbych a Sustrans yn annog pobl i gefnogi'r prosiect. I gofrestru agorwch: www.sustransconnect2.org.uk neu tecstiwch Connect2 to 80010. Bydd Connect2 wedyn yn rhoi gwybodaeth i chi. (ffoniwch 80010 ar y cyfraddau rhwydwaith safonol.)

Rhoi adborth ar y tudalen hon