| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
11/20/2007 - Arweinydd yn croesawu cyfarwyddyd y Gweinidog

Mae Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Hugh Evans wedi croesawu ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i weithio gyda'r awdurdod er mwyn gwella safonau addysg yn y sir.

Prynhawn 'ma, cyhoeddodd Jane Hutt, Gweinidog yn y Cynulliad ei bwriad i sefydlu grwp adfer annibynnol fyddai'n gweithio gyda'r awdurdod i fonitro cynnydd gyda'r Cynllun Gweithredu, gynhyrchwyd mewn ymateb i adroddiad Estyn i dri o wasanaethau addysg y sir.

Bydd y bwrdd allanol yn cael ei sefydlu ym mis Ionawr ac yn cwrdd yn fisol, yn adrodd yn uniongyrchol i'r Gweinidog.

Mae'r Gweinidog hefyd wedi gofyn i'r Cyngor  barhau i weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans: "Rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i sefydlu bwrdd annibynnol fydd yn gweithio gyda chynghorwyr a swyddogion i wella safonau addysg.

"Mae'r Cyngor yn derbyn yn llwyr fod angen newidiadau radical i wella safonau addysg ac mae holl gynghorwyr Sir Ddinbych yn ymrwymedig er mwyn sicrhau fod addysg yn flaenoriaeth yn y sir.

"Mae gwelliannau eisoes yn cael eu cyflwyno ac mi fyddwn yn gweithio i'r gorau o'n gallu i ddarparu addysg o'r radd flaenaf i holl blant a phobl ifanc Sir Ddinbych."

"Hoffwn estyn fy ngwerthfawrogiad i  staff, cynghorwyr, penaethiaid a llywodraethwyr sydd wedi gweithio'n ddiwyd ar y cynllun gweithredu a bydd y gwaith yma'n parhau."

Mae'r Cyngor hefyd wedi derbyn adborth gan Estyn sy'n nodi:

"Mae'r Cynllun Gweithredu yn dangos bod y Cyngor wedi derbyn bod angen newidiadau radical yn y modd y mae'r awdurdod lleol yn gwella, er mwyn cael gwell canlyniadau. Mae'r Cynllun Gweithredu yn newid y blaenoriaethau a gweithgareddau yn y gwasanaethau addysg mewn modd sydd ei angen. Mae'r Cynllun yn cydnabod y pwyslais ar  yr angen i'r newidiadau fod yn rhan annatod o waith pob dydd ar draws holl wasanaethau addysg. Mae cynlluniau penodol da mewn lle i wella cyfathrebu o fewn y Cyngor a chyda'r rhan-ddalwyr."

Mae'r llythyr hefyd yn cynnwys argymhellion am newidiadau sydd eu hangen i gryfhau'r ddogfen a gwella ffyrdd o herio, monitro a gweithredu'r argymhellion.

Mae'r materion a godwyd yn yr ymateb wedi cael eu derbyn gan y Cyngor ac eisoes yn derbyn sylw.  Bydd y rhain yn cael eu cynnwys yn y Cynllun Gweithredu sy'n cael ei adolygu ac fydd yn cael ei gyflwyno i Estyn erbyn Rhagfyr 27.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0