Mae Cynghorwyr Sir Ddinbych (dydd Mawrth ) wedi cytuno i symud ymgynghoriad ffurfiol ar gynlluniau i newid Addysg 16-19 yn y Rhyl.
Mae ymgynghori ar gynigion Cambridge Education yn dynodi cytundeb clir bod raid newid y ddarpariaeth chweched dosbarth.
Mae angen ffordd newydd o ddarparu Addysg ar ôl 16 sy'n cynnig mwy o ddewis, annog mwy o ddisgyblion aros ymlaen a sicrhau 'r safon uchaf posibl.
Mewn ymgynghoriad anffurfiol daeth dau ddewis amlwg i'r golwg i newid Addysg ar ôl 16 oed yn y dref.
Dewis 1: mae Cambridge Education yn argymell cau 6ed Dosbarth Ysgol Uwchradd Y Rhyl ac Ysgol y Bendigaid Edward Jones a chreu Ysgol fel canolfan ar ôl 16 oed ar safle coleg y Rhyl. Byddai'r ganolfan hon yn gwneud lefel A, Cymraeg a'r International Baccalaureate a hefyd amrediad eang o gyrsiau galwedigaethol sydd ar gael yn y coleg.
Dewis 2: mae Ysgolion Uwchradd Y Rhyl a Choleg Llandrillo yn datblygu cynllun partneriaeth. Cyflwynwyd cynnig drafft gan y Cyngor Sir i Ysgolion Uwchradd y Rhyl; a methwyd cytuno hefo Coleg Llandrillo mewn pryd. Mae materion craidd megis arweiniad, ariannu a llywodraethu eto i'w datrys. Bydd cynnig manwl a gytunwyd hefo'r tri phartner yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor Sir cyn diwedd y cyfnod ymgynghorol statudol os bydd i aros fel dewis posibl.
Bydd trefniadau newydd mewn lle erbyn Medi 2009.
Bydd yr ymgynghori ar y gweill.

Rhoi adborth ar y tudalen hon