Mae rhai busnesau ac unigolion yn barod i anwybyddu rheolau a rheoliadau, a hynny er colled i’r rheiny sy’n gydwybodol ac yn ufudd i’r gyfraith. Mae hyn yn annheg ac anghyfiawn. Fe reolir y marchnadoedd masnachu a chynhyrchu, nid i fod yn feichus i fusnesau, ond mae’n creu maes gwastad lle y gall fusnesau gystadlu’n deg am gwsmeriaeth ac i sicrhau diogelwch y cyhoedd. Yn ogystal ag amddifadu perchnogion eiddo cyfreithiol o’u refeniw, mae’n debyg nad yw’r cnafon hyn yn talu eu trethi, eu trethi busnes nag yswiriant atebolrwydd cyhoeddus. Yn aml mae proffid o werthiannau anghyfreithlon yna’n cael ei ddefnyddio i ariannu troseddau difrifol eraill a gweithgareddau fel dosbarthu cyffuriau a masnachu drylliau.
| Oedrannau Cyfreithiol i Brynu Cynnyrch Cyfyngedig | |
| Sigarets/Tybaco | 18 |
| Tan Gwyllt | 18 |
| 'Partypopper'/Cracers | 16 |
| Alcohol | 18 |
| Cyllyl | 18 |
| Toddyddion a Sylweddau Meddwol Eraill | 18 |
| Adlenwyr Tanwyr Sigaret Butane | 18 |
| Fidoes, DVDs a Gemau Cyfrifiadur | 12, 15, 18 |
| Tocynnau'r Loteri Genedlaethol | 16 |
| Petrol | 16 |
Siocledi Gwirodlyn | 16 |
Rhowch wybod i ni os ydych yn gwybod am:-
- unrhyw berson sydd yn caniatau gwerthiannau dan oed
- neu unrhyw berson sy’n cynhyrchu neu’n gwerthu nwyddau llwgr neu ffug fel:- cryno ddisgiau, dvd’s, dillad, esgidiau, meddalwedd, cyfarpar electronig, arfau pŵer,
- neu busnesau neu unigolion sy’n darparu credyd didrwydded, masnachwyr twyllodrus sy’n galw’n ddisymwth yng nghartrefi pobl.
Gallwch wneud hyn drwy gysylltu â ni gan ddefnyddio’r linc gyswllt sydd ynghlwm ar dudalen yma neu unrhyw gyswllt ar y tudalen cartref y Safonau Masnach.

Rhoi adborth ar y tudalen hon