Mae arolwg economaidd 2005 gan ‘Parkin Heritage and Tourism’ o Ddyffryn y Ddyfrdwy wedi tynnu sylw ar yr angen i gael ymgyrch brandio, marchnata a dehongli i wella profiad ymwelwyr a rhoi Dyffryn y Ddyfrdwy ar y map.
Mae ymgyrch Dyffryn y Ddyfrdwy wedi'i ddatblygu gan arbenigwyr dylunio ' Blah d Blah', ar y cyd â grwpiau busnes Dyffryn y Ddyfrdwy, Cyngor Sir Ddinbych, hefo cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chadwyn Clwyd. Gwnaed y brandio ar sail y Ffenest Rosyn enwog yn Abaty Valle Crucis a hwn oedd y dewis gorau yn ystod prawf marchnata a wnaed fis Mehefin y llynedd. Mae undegun panel i ddehongli Dyffryn y Ddyfrdwy wedi'u gosod ar hyd Dyffryn y Ddyfrdwy mewn safleoedd allweddol gan gynnwys Bwlch yr Oernant, stad Rhug a phont ddŵr Pontcysyllte. Mae pob bwrdd dehongli yn unigryw hefo tri pheth i'w wneud ymhob lleoliad, ac yna awgrymir dau le arall i fynd i'w gweld. Maen nhw wedi cael eu datblygu i greu synnwyr o le ac i annog pobl i ymweld â mwy o lefydd yn y fro ac felly aros yn hirach, gan roi budd i fusnesau lleol. Taith Dyffryn y Ddyfrdwy yw'r prosiect cyntaf i gael ei weithredu trwy Astudiaeth Parkin.


Rhoi adborth ar y tudalen hon