| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Cod'r Safon - Strategaeth yr Economi Ymwelwyr
Cod'r Safon - Strategaeth yr Economi Ymwelwyr ar gyfer Dyffryn Dyfrdwy

1. Mae Grwp Gweithredu Busnes Dyffryn Dyfrdwy (Gweithredu Busnes Gwledig), gyda chymorth ariannol gan Awdurdod Datblygu Cymru a Cadwyn Clwyd, wedi gofyn am arolwg o berfformiad twristiaeth Dyffryn Dyfrdwy ar hyn o bryd o fewn Sir Ddinbych a chynigion ‘i harneisio adnoddau nodedig yr ardal er mwyn dyfnhau, ehangu ac ychwanegu gwerth at y profiad o ymweld â’r ardal drwy greu cynnyrch hawdd i’w adnabod a chyfunedig sy’n tynnu ar nodweddion arbennig lawer yr ardal’.

2. Penodwyd tîm amlddisgyblaethol bychan o ymgynghorwyr i ymgymryd â’r aseiniad, yn cynnwys:
* Ian Parkin  Parkin Heritage and Tourism
* Malcolm Connor  CONNOR & Co Tourism Management Consultancy
* Chris Ledbury  Ymgynghorydd Cefn Gwlad a Dehongli.

3. Ymgymerwyd â’r astudiaeth drwy:
* werthuso’r safle
* ymgynghoriadau eang
* ymchwil cefndir
* trafodaeth a gweithdai gyda’r cleient
* seiadau tîm.

4. Ardal yr astudiaeth yw Dyffryn Dyfrdwy o Ddyfrbont Pontcysyllte yn y dwyrain i Siop Fferm Organig Stad y Rhug yn y gorllewin, crynhoad dr y Berwyn i’r de a Mynyddoedd Llantysilio a Rhiwabon i’r gogledd.  Yn ei hanfod, mae’n cynnwys tair rhan wahanol:
* Llangollen – y canolbwynt naturiol i ymwelwyr
* Corwen – y dref farchnad draddodiadol
* Dyffryn Dyfrdwy gwledig.

5. Canfu’r dadansoddiad dechreuol fod yna ddiffygion difrifol yn:
* hunaniaeth, ac yn yr arwyddion o fewn Dyffryn Dyfrdwy
* ansawdd a maint y dehongli i helpu ymwelwyr a phobl leol i werthfawrogi paham y mae’r ardal mor arbennig
* ansawdd y cynnyrch twristiaeth, gwasanaeth a gofal cwsmeriaid
* ansawdd y parth cyhoeddus
* y sefyllfa bresennol mewn perthynas â phrosiectau allweddol.
Mae angen sefydlu brand cyrchfan credadwy ar gyfer yr ardal sy’n adlewyrchu’r cynnyrch yn y fan a’r lle, ac i roi’r gyrchfan ar y map.

6. Nododd yr astudiaeth farchnadoedd presennol Dyffryn Dyfrdwy fel:
* niferoedd mawr o dripiau undydd o Orllewin Canolbarth Lloegr a’r Gogledd-Orllewin sy’n cael eu tynnu gan Langollen, ei atyniadau i ymwelwyr a’r golygfeydd yn gyffredinol.  Teuluoedd yw’r rhain   yn bennaf
* traffig tramwy ar hyd yr A5 sy’n stopio am ychydig ar gyfer egwyl te a thoiled gyda rhai’n torri eu taith dros nos
* oddeutu 7,000 o gychod y flwyddyn sy’n dod i Langollen ar y gamlas : tymhorol yw hyn ac yn grwpiau o gyplau a theuluoedd gan mwyaf
* ychydig o dwristiaeth busnes a chyfarfodydd bychain mewn gwestai lleol
* gwyliau byr mewn gwestai, Gwely a Brecwast ac ar safleoedd carafanau, yn aml fel rhan o wyliau teithio ac yn dod ar gyfer y cerdded, y wlad a’r golygfeydd.  Cyplau hþn yw’r rhain yn bennaf.
* nifer cyfyngedig o wyliau gweithgaredd
* Eisteddfod Ryngwladol Llangollen a gynhelir ym Mhafiliwn Brenhinol Llangollen sy’n denu 40,000-45,000 o ymweliadau yn ystod un wythnos pob Gorffennaf.  Ymwelwyr undydd yw’r rhain gan   mwyaf ac eto mae’r ymwelwyr sy’n aros yn llenwi’r holl lety am filltiroedd o gwmpas
* canran fechan o bobl sy’n berchen carafanau ar safleoedd yn yr ardal ac yn ymweld gydol y flwyddyn gyda theulu a chyfeillion.

7. Amcangyfrifir bod niferoedd ac effaith gwerth ymwelwyr â Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy yn 2003 yn:
* 980,000 o ymwelwyr gyda:
- 815,000 ar drip undydd
- 73,000 yn aros mewn llety â gwasanaeth
- 60,000 yn aros mewn llety heb wasanaeth, a
- 32,000 yn aros gyda chyfeillion a pherthnasau
* cyfanswm gwariant ymwelwyr blynyddol o £42 miliwn
* cyfanswm cyflogaeth yr economi ymwelwyr 900 o bobl
Mae perfformiad cyffredinol y cynnyrch yn amrywio yn ôl sector, amser ac yn ôl ardal. Mae yna gyfnodau brig a thawel arwyddocaol.

8. Ar ôl asesu’r hyrwyddiadau presennol mae hi’n amlwg fod:
* marchnata’r gyrchfan yn dameidiog, yn brin o adnoddau a heb ei reoli
* mae busnesau’n cystadlu yn erbyn ei gilydd am eu cyfran nhw o farchnad sy’n dirywio ac yn gwerthu yn ôl y pris.  Nid ydynt yn gweithio â’i gilydd i dyfu’r farchnad ar y cyd a chystadlu drwy   werth ychwanegol.

9. Ar ôl dadansoddi’r farchnad bresennol a thueddiadau a rhagolygon dull o fyw argymhellodd yr astudiaeth fod yr economi ymwelwyr yn ddisgrifiad gwell a mwy cynhwysol o economi Dyffryn Dyfrdwy, sy’n cynnwys darparwyr y sector cyhoeddus a phreifat a chefnogaeth gan y sector cyhoeddus.

10. Mae’n cynnig beth ddylai’r weledigaeth farchnata strategol fod:

Sefydlu Dyffryn Dyfrdwy fel cyrchfan gynaliadwy o safon yng
nghalonnau a meddyliau ymwelwyr

Mae’n darparu cyfres o amcanion marchnata ac yn argymell beth ddylai’r brand cyrchfan fod:

Dyffryn Dyfrdwy… y Gorau o Ororau Cymru

Mae’n ambarél sy’n rhoi hyblygrwydd gogyfer â chyrchfannau a gweithgareddau penodol.  Mae angen i’r brand gael ei reoli a’i gyfathrebu i’r economi ymwelwyr yn Nyffryn Dyfrdwy.

11. Mae’r Cynllun Marchnata wedi’i seilio ar bedair marchnad darged:
* ymwelwyr undydd (yn cynnwys ymweliadau grwp)
* gwyliau byr
* gwyliau gweithgaredd
* cyfarfodydd a chynadleddau.
Mae’n adolygu pob marchnad ac yn clustnodi datblygiad cynnyrch penodol.

12. Mae Cynllun Gweithredu’r Marchnata wedi’i seilio ar ffordd dau gam o fynd ati:
* yn y tymor byr creu’r brand a’i roi ar y map ymwelwyr
* datblygu ymgyrchoedd cynnyrch yn y tymor canolig i hir.

13. Yn y tymor byr argymhellir bod ymgyrch ‘Darganfod Dyffryn Cudd y Ddyfrdwy : Y Gorau o Ororau Cymru’ yn cael ei ddatblygu a’i lansio ar gyfer 2006 a 2007.  Byddai hwn yn cynnwys:
* taflen lliw llawn A3 wedi’i phlygu i lawr i faint A5
* mewnosodiad ar gyfer gweithredwyr coetsis a threfnwyr grwpiau
* pecyn marchnata i ysgolion
* rhestr o leoedd ‘ble i aros’ sydd â sicrwydd ansawdd
* gwefan ‘Ymwelwch â Dyffryn Dyfrdwy’ newydd
* marchnata ar-lein arbrofol drwy hysbyseiriau Google
* hyrwyddo drwy ymgyrch y Gororau
* Cysylltiadau Cyhoeddus i greu ymwybyddiaeth yn y cyfryngau.
Mae’r gost gyllidol ar gyfer y pecyn gweithgaredd hwn yn tua £50,000 gydag amcangyfrif o £30,000 yn gyllid craidd a £20,000 yn gefnogaeth a nawdd busnesau (heb gynnwys amser a chostau staff).

14. Mae’r gweithredu tymor canolig i hir yn ei hanfod yn ddatblygiad o’r gweithredu tymor byr.  Bydd rhaid aildrefnu cynnwys ‘Darganfod Dyffryn Cudd y Ddyfrdwy’ i adlewyrchu nodweddion newydd ee. y cyswllt rheilffordd a menter ‘bwyd a diod/cerdded yn y wlad’, y gellid ei frandio’n ‘Cerdded Cefn Gwlad Cymru yn Nyffryn Dyfrdwy’.  Byddai hyn yn cynnwys:
* pamffled A4 lliw llawn a fyddai’n cael ei ddosbarthu am ddim drwy Ganolfannau Croeso (argraffiad o 30,000 a mwy)
* ymgyrch post uniongyrchol rhagweithiol
* cynnwys hysbyslen wedi’i thargedu mewn cyhoeddiadau allweddol (argraffiad o 200,000 a mwy)
* system cadw llety ganolog drwy’r wefan
* nifer cynyddol o leoedd â sicrwydd ansawdd yn gyfrannog.
Byddai cyfanswm cost y pecyn gweithgaredd hwn yn tua £100,000 y flwyddyn gyda chyllid craidd amcangyfrifiedig o £60,000 a £40,000 gan bartneriaid busnes a nawdd (heb gynnwys amser a chostau staff).

15. Mae’r adroddiad yn mynd yn ei flaen i ystyried datblygu’r cynnyrch i wella profiad yr ymwelydd ac yn arbennig:
* gwybodaeth a chyfeiriadu ymwelwyr
* gwella’r atyniadau a’r dehongliad
* mwyhau potensial Llangollen
* mwyhau potensial Corwen
* y seilwaith ehangach yn cynnwys twristiaeth gweithgaredd
* mwyhau amrywiaeth diwylliannol yr ardal.

16. O ran croeso a chyfeiriadu mae’n argymell:
* darparu arwyddion ffin i Ddyffryn Dyfrdwy sy’n drawiadol ac yn seiliedig ar frand Dyffryn Dyfrdwy
* datblygu Man Gwybodaeth Dyffryn Dyfrdwy sydd wedi’i leoli mewn cilfannau ar y priffyrdd, yn y meysydd parcio allweddol yn Llangollen a Chorwen ac wrth y mynedfeydd naturiol i’r dyffryn
* cynrychioli Canolfan Groeso Llangollen fel Canolfan Groeso Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy
* hyrwyddo Amgueddfa Llangollen fel mynedfa bwysig i’r dyffryn i’r rheini sydd eisiau archwilio’r pwnc yn fwy manwl
* cyflwyno Man Gwybodaeth Dyffryn Dyfrdwy mewn mannau ble mae yna grynhoad o weithgaredd ymwelwyr yn cynnwys atyniadau, golygfannau, mannau prydferth, gorsafoedd rheilffordd,    pentrefi a safleoedd archeolegol
* mannau gwybodaeth pentrefi gan ddefnyddio’r siop/swyddfa bost, tafarndai, llefydd petrol ayb.

17. Â’r adroddiad yn ei flaen i amlygu pwysigrwydd dehongli fel cyfrwng i ddenu ymwelwyr a bobl leol, i wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, i werthfawrogi arwyddocâd yr ardal ac i ddylanwadu ar agweddau ac ymddygiad.  Mae’n clustnodi thema ddeongliadol drosfwaol, sef:

Mae Dyffryn Dyfrdwy yn lle arbennig ble gellwch chi fwynhau golygfeydd bendigedig, hanes a diwylliant Cymru a gweithgareddau awyr agored cyffrous a llawn mynd

Mae’n mynd ymlaen i glustnodi tair thema ddeongliadol allweddol:
* mae Dyffryn Dyfrdwy yn adnodd hamdden anhepgor a ddefnyddir gan lawer o ymwelwyr pob blwyddyn fel rhywle hardd a naturiol i ymlacio
* mae dyn wedi byw, gweithio ac addoli yma am 5,000 o flynyddoedd a gellwch chi ddod o hyd i dystiolaeth gyfareddol yn y dirwedd hardd hon os ewch chi i’r drafferth o edrych
* bu Dyffryn Dyfrdwy yn llwybr cysylltiadau hanesyddol drwy gyfrwng ffordd, rheilffordd a chamlas am filoedd o flynyddoedd.
Mae dehongli yn cael ei gyflwyno gan lawer o ddarparwyr ac argymhellir bod Fforwm Dehongli i’w sefydlu i sicrhau cyd-drefniant, meddwl cyfunedig a gweithio partneriaeth er mwyn sicrhau darpariaeth ddeongliadol arloesol ac uchel ei ansawdd.

18. Mae’r adroddiad yn gwneud cyfres o argymhellion ynghylch sut y gellir gwella rhai o’r atyniadau allweddol.  Yn arbennig mae’n clustnodi’r posibiliadau o agor rhai o’r eglwysi pwysicaf, mwyaf darluniadol, yn cynnwys Llantysilio a Chorwen.  Mae’n tynnu sylw hefyd at werth yr atyniadau’n gweithio gyda’i gilydd:
* drwy rwydweithio
* yn cyfnewid gwybodaeth (yn cynnwys ymgymryd ag arolwg ymwelwyr blynyddol)
* yn cymryd rhan mewn hyrwyddiadau ar y cyd o fewn y Cynllun Marchnata
* yn ystyried cyflwyno ‘pasport’ Dyffryn Dyfrdwy i’r atyniadau hynny sy’n codi tâl
* yn ymorol am ddefnyddio adnoddau yn arloesol ee. casgliad ceir hanesyddol Amgueddfa Foduron Llangollen ar gyfer Teithiau Dyffryn Dyfrdwy ayb.

19. Mae’r adroddiad yn clustnodi amryw fentrau i godi delwedd a phroffil Corwen yn cynnwys:
* uwchraddio’r meysydd parcio
* ymestyn y rheilffordd i Gorwen (a chynnig cyfleuster parcio a chludo i’r rheini sy’n teithio o’r gorllewin)
* yn datblygu cyswllt cryf rhwng platfform yr orsaf a chanol y dref, yn cynnwys cyflwyno elfennau masnachol
* yn datblygu treftadaeth ddiwylliannol y dref, ac yn arbennig Owain Glyndŵr, drwy greu canolfan archifau ac adnoddau gymunedol wedi’i chysylltu â llwybr tref gwell
* yn tynnu Cymreigrwydd y dref allan drwy gyflwyno arwyddion a bwydlenni Cymraeg, cyflwyno’r Gymraeg wrth gyfarch ymwelwyr yn ogystal â digwyddiadau a gweithgareddau diwylliannol yn y dref
* yn datblygu’r mur dringo yn chwarel Pen y Pigyn
* yn codi arian fel cymuned i ymgymryd â’r Astudiaeth Dichonoldeb i ddyfodol y Pafiliwn yng Nghorwen
* yn datblygu llwybrau cerdded a beicio
* yn sefydlu rhaglenni hyfforddi i fusnesau mewn perthynas â chreu profiad ymwelwyr Corwen
* yn hyrwyddo’r Ganolfan Hamdden fel adnodd i ymwelwyr yn ogystal ag i bobl leol
* yn annog siopau a thafarndai i ganolbwyntio mwy ar ymwelwyr a darparwyr llety i fod â sicrwydd ansawdd
* yn sefydlu mynedfa orllewinol i’r dyffryn wrth Fferm Organig y Rhug.

20. Yr un modd, mae yna amrywiaeth eang o argymhellion o ran Llangollen yn cynnwys:
* arwyddion mynedfa llawer gwell, arwyddion gwyn ar frown, arwyddion mynegbyst a chyfeiriadu ymwelwyr mewn meysydd parcio
* tirlunio’r meysydd parcio a chyflwyno Teledu Cylch Caeëdig
* rheoli ymwelwyr (yn cynnwys parcio a chludo gan ddefnyddio’r Pafiliwn Brenhinol)
* mabwysiadu oriau agor sy’n canolbwyntio mwy ar ymwelwyr
* rhaglenni gwella’r amgylchedd a’r treflun
* datblygu cyswllt uniongyrchol atyniadol rhwng Canolfan Cychod a Dynnir gan Geffylau Llangollen a’r doc angori newydd a chanol y dref
* ymchwilio i gyfleoedd caffis a bwytai ar y stryd
* cyflwyno gwaharddiad ar yfed ar y strydoedd heblaw caffis palmant
* ymchwilio i benodiad Rheolwr Canol y Dref.

21. Ar yr un pryd rydym yn ymwybodol o bwysigrwydd ymwelwyr i’r cymunedau pentrefol : rhaid hyrwyddo hyn drwy gerdded, beicio, bysus a threnau tra’n sicrhau bod ymwelwyr yn cael eu rheoli i leihau’r effaith ar bobl leol.  Dylai siop/swyddfa bost neu dafarndai pentrefi weithredu fel Man Gwybodaeth Dyffryn Dyfrdwy gyda’r disgwyliad y byddant yn symud tuag at ddarparu gwybodaeth electronig dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.
22. Mae’r adroddiad yn amlygu’r potensial i ddatblygu’r cynnyrch cerdded gan gryfhau’r cysylltiadau â’r rheilffordd a chludiant cyhoeddus, yn cynnwys gwasanaeth bws ‘Hopiwr Dyffryn Dyfrdwy’.  Mae’n cydnabod pwysigrwydd twristiaeth gweithgaredd ac yn awgrymu sefydlu Grwp Gwyliau Gweithgaredd Dyffryn Dyfrdwy i ddarparu canolbwynt ar gyfer rhwydweithio, hyfforddi, marchnata cydweithrediadol a chodi safonau.  Mae’n pwysleisio pwysigrwydd datrys yr impasse presennol mewn perthynas â physgota a chanio sy’n colli symiau sylweddol o arian i’r economi leol.

23. Mae beicio mynydd a beicio teuluol yn bwysig ac mae potensial iddynt.  Mae angen ystyried darparu cyfleusterau hanfodol ar gyfer beiciau mynydd.  Mae dringo yn elfen bwysig o’r pecyn gwyliau gweithgaredd a dylid ei hyrwyddo.  Mae eco-dwristiaeth, yng nghyd-destun bywyd adar a bioamrywiaeth arbennig y dyffryn, yn ychwanegu dimensiwn arall.

24. Mae yna bryder ynghylch motorbeicio anghyfreithlon oddi ar y ffyrdd : er bod gweithio partneriaeth llwyddiannus rhwng yr heddlu a’r Gwasanaeth Cefn Gwlad wedi dwyn ffrwyth yn 2005 mae angen lleoliadau parhaol addas ar gyfer y gamp yma.  Mae llwyddiant mentrau yng Ngogledd Swydd Lanark a Bannau Brycheiniog yn dangos beth y gellir ei gyflawni.

25. Mae’r adroddiad yn pwysleisio pwysigrwydd diwylliannol y dyffryn gydag Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, y Digwyddiadau Ymylol, Gyl Fwyd Llangollen, digwyddiadau bychain eraill o amgylch Llangollen a thraddodiadau diwylliannol Cymreig cryf Corwen a chefn gwlad Dyffryn Dyfrdwy.  Mae cryfder y Gymraeg yn cynnig cyfleoedd:
* i hybu gweithgaredd diwylliannol cynhenid yn cynnwys dawnsio gwerin, cerddoriaeth, barddoniaeth ac adrodd storïau
* i ddefnyddio’r Gymraeg mewn arwyddion, bwydlenni, cyfarchion a mentrau deongliadol
* i ddatblygu digwyddiadau a gwyliau bychain ar safleoedd allweddol drwy’r dyffryn i gyd
* i annog defnydd bwyd lleol drwy Farchnad Ffermwyr Glyndŵr, Marchnad Sefydliad y Merched a Siop Fferm Organig y Rhug ac mewn tafarndai, bwytai a gwestai y gellir eu hyrwyddo drwy daflen   marchnata.

26. Rydym yn cynnig bod y prosiect yn cwmpasu cysyniad Rheolaeth Ansawdd Integredig, a ddylai fod yn broses barhaus sy’n cynnwys:
* deall anghenion ymwelwyr
* gosod safonau
* clustnodi anghenion hyfforddi a chyflwyno cyrsiau hyfforddi sydd wedi’u haddasu i ddatblygu busnes yn effeithlon
* lledaenu gwybodaeth am y farchnad
* monitro a gwerthuso effaith twristiaeth ar yr amgylchedd lleol a’r cymunedau.

27. Rydym yn cynnig y dylid galw’r prosiect yn Fenter Economi Ymwelwyr Dyffryn Dyfrdwy.  Dylai Grwp Gweithredu Busnes Dyffryn Dyfrdwy oruchwylio’r prosiect gan sefydlu Tasglu Economi Ymwelwyr dan arweiniad Cyfarwyddwr Prosiect.  Dylid sefydlu Fforwm Dehongli Dyffryn Dyfrdwy a Grwp Gwyliau Gweithgaredd Dyffryn Dyfrdwy hefyd.
28. Mae’r camau nesaf yn golygu:
* gofyn am sêl bendith Grwp Gweithredu Busnes Dyffryn Dyfrdwy, y Cyngor Sir, Cadwyn Clwyd, Awdurdod Datblygu Cymru a Bwrdd Croeso Cymru i’r strategaeth fel y weledigaeth ar gyfer y ffordd   ymlaen
* sefydlu Menter Economi Ymwelwyr Dyffryn Dyfrdwy
* ceisio ‘prynu i mewn’ i’r weledigaeth gan y gymuned fusnes a’r gymuned leol drwy gyfres o ddigwyddiadau ymgynghori
* cynhyrchu Cynllun Gweithredu 3 blynedd gam wrth gam sydd wedi’i flaenoriaethu a’i brisio a cheisio cyllid i ddechrau cyflwyno Strategaeth yr Economi Ymwelwyr.

29. Rydym wedi cynnig bod ystyriaeth ddifrifol i’w rhoi i benodiad Rheolwr Canol y Dref sy’n rhannu ei amser rhwng Corwen a Llangollen gyda’r nod o gryfhau economi ymwelwyr y ddwy dref.

30. Rydym wedi pwysleisio’r angen i fonitro a gwerthuso’r strategaeth ac wedi enwi nifer o dechnegau gwerthuso.  Rydym wedi mynd ymlaen i amlygu pwysigrwydd cynhaliaeth a rheolaeth i sicrhau bod profiad cyffredinol yr ymwelydd a grëir o fewn Dyffryn Dyfrdwy o’r ansawdd gorau.  Mae hyn yn cynnwys:
* arwyddion ffyrdd
* ymdeimlad o gyrraedd ac o groeso
* ansawdd y meysydd parcio a’r toiledau
* ansawdd ac argaeledd cyfeiriadu ymwelwyr a gwasanaethau gwybodaeth 
* ansawdd amgylcheddol cyffredinol yr ardal
* ansawdd ac amrywiaeth yr adwerthu a’r arlwyo a’r oriau agor
* gofal cwsmeriaid
* sylw i fanylion.
Mae pob elfen yn dyngedfennol o ran amgyffrediad yr ymwelydd.  Mae cyflwyno pob cydran yn effeithiol yn dyngedfennol.  Bydd yr ardal yn sefyll neu’n disgyn yn y pen draw yn ôl ansawdd y profiad i’r ymwelydd.

31. Credwn fod yr adroddiad yn rhoi asesiad realistig a gwrthrychol o’r sefyllfa bresennol, y mae amrywiaeth eang o argymhellion yn llifo ohoni.  Mae Dyffryn Dyfrdwy yn haeddu ffordd unol o fynd ati i ail-leoli’r economi ymwelwyr a bydd yn elwa’n aruthrol ar ffordd strategol o fynd ati sy’n seiliedig ar Reolaeth Ansawdd Integredig.
Rydym yn cymell Strategaeth Economi Ymwelwyr Dyffryn Dyfrdwy i chi.

Ian Parkin
Malcolm Connor
Chris Ledbury
Medi 2005

Ymlyniadau
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0