Prawf MOT a Chynhaliaeth Cerbydau
Lleolir Canolfan Rheolaeth Fflyd a Chynhaliaeth Cerbydau Cyngor Sir Ddinbych ar y parc busnes Expressway Business Park ym Modelwyddan ac yn ogystal â chynnal cerbydau'r Sir a nifer o gwsmeriaid eraill mae ganddo gyfleusterau profi MOT sy'n agored i'r cyhoedd .
Gallwn roi prawf MOT ar y math canlynol o gerbydau fel a nodir isod :-
Dosbarth 4 (gan gynnwys Ceir, faniau hyd at 3000kg a thacsis) o £46
Dosbarth 5 (cerbydau teithwyr 13+ Seddi) o £54
Dosbarth 7 (cerbydau nwyddau 3001 - 3500kg's) o £50
Ar hyn o bryd does dim tâl am ail brofi, cyhyd a bod y cerbyd ddim yn gadael yr adeilad.
Gellir gwneud gwaith cywiro yn ein hadeilad gan un o'n gweithwyr hyfforddedig .
Yn 2008 byddwn yn agor ein drysau i brofi HGV (dyddiad i'w gadarnhau), cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw ddiddordeb yn y gwasanaeth hwn.
Oriau agor y Ganolfan ar hyn o bryd yw 7.30am hyd 9pm, dydd Llun hyd ddydd Gwener. Ffoniwch ni ar 01745 839230 os oes gennych unrhyw gwestiwn am hyn. Neu, cliciwch ar y linc ar y chwith i lenwi ffurflen ar lein.
Fleet Management and Vehicle Maintenance
Expressway Business Park
Abergele Road
Bodelwyddan
LL18 5SQ


Rhoi adborth ar y tudalen hon