Beth mae Swyddog Rheoli Adeiladu yn ei wneud?
Yn bennaf, mae Swyddogion Rheoli Adeiladu yn gwirio ceisiadau Rheoliadau Adeiladu ac yn archwilio gwaith ar y safle ar adegau penodol. Yn Sir Ddinbych, mae Swyddogion Rheoli Adeiladu yn ymdrin â materion ychwanegol megis adeiladwaith peryglus, gorfodi rhybuddion dymchwel a chynghori adrannau eraill y Cyngor ar faterion adeiladu.
Ar gyfer pa fath o waith y byddaf angen Caniatâd Rheoli Adeiladu?
Bydd ar y rhan fwyaf o weithgareddau adeiladu - yn amrywio o newidiadau ac estyniadau bychain i dai i brosiectau masnachol a diwydiannol mawr - angen caniatâd. Oni bai eich bod yn bwriadu adeiladu porth bychan neu estyniad ystafell wydr neu garej fechan ar ei phen ei hun, mae’n debygol y bydd angen caniatâd. Am fwy o wybodaeth ynglyn â’ch cynnig, gofynnir ichwi gysylltu â’ch Swyddog Rheoli Adeiladu lleol.
Sut mae gwneud cais a beth fydd y gost imi?
I gael caniatâd Rheoliadau Adeiladu, dylech ddilyn un o’r ddwy drefn ganlynol:- (i) Cyflwyno Cynlluniau Llawn - bydd angen i chi anfon cynlluniau manwl i ni o'r gwaith a hefyd y ffurflen berthnasol a ffi'r 'cynllun' (mae arweiniad i ffioedd ar gael yn y swyddfeydd Rheoli adeiladu). Pan fyddwch yn dechrau gwaith ar y safle ac wedi i Swyddog wneud ei archwiliad cyntaf anfonir anfoneb atoch am ffi archwilio sy'n cynnwys pob archwiliad wedi hynny. (ii) Cyflwyno Rhybudd Adeiladu - yn syml llenwch y ffurflen berthnasol, a'i hanfon atom, ynghyd â chynllun bloc a'r 'ffi Rhybudd Adeiladu' (sy'n gyfwerth â chyfuniad o'r ffioedd Cynlluniau Llawn a'r ffioedd archwilio). Ni ellir defnyddio Rhybudd Adeiladu pan fo’r gwaith yn ymwneud â Swyddfeydd, siopau, ffatrïoedd neu westai/lletyau. Fel arall, mae gan y ddwy drefn statws cyfreithiol cyfartal ac yn y pen draw maent yn costio’r un faint. Gweler y linc ar y chwith or tudalen yma.
Pryd gallaf gychwyn y gwaith?
O leiaf ddau ddiwrnod ar ôl cyflwyno eich Rhybudd Adeiladu neu gais Cynlluniau Llawn.
Pa mor hir fydd hi cyn y caiff fy nghais Cynlluniau Llawn ei gymeradwyo?
Nid yw hwn yn gwestiwn hawdd i’w ateb, gan ei fod yn dibynnu ar gymaint o ffactorau, megis crynswth gwaith y swyddfa yr adeg y cyflwynwch eich cais ac ansawdd a chywirdeb eich cynlluniau. Fodd bynnag, mae rheidrwydd cyfreithiol ar y Cyngor i wneud penderfyniad o fewn 5 wythnos i’r dyddiad cyflwyno, neu 2 fis, os cytunwch i hynny.
Pan fydd Rheoli Adeiladu yn archwilio’r gwaith?
Wedi dechrau gwaith ar y safle, rhaid ichwi hysbysu’r swyddfa Rheoli Adeiladu ar yr adegau canlynol (ble bo’n berthnasol):- Cychwyn y Gwaith Cloddio ar gyfer sylfeini Sylfeini Cwrs Gwrth-Damp Gosod defnyddiau dros y safle (lloriau) Draeniau Profi draeniau Anheddu'r adeilad Cwblhau'r gwaith adeiladu. Gofynnir am archwiliad cyn gosodiad cyntaf ychwanegol yn achos Rhybuddion Adeiladu. Os yw'n well gennych, gallwch ein hysbysu ar lafar ac fel arfer gwneir archwiliad ar yr un diwrnod.
A oes gwahanol reoliadau ar gyfer gwahanol rannau o'r Sir?
Nac oes, mae’r rheoliadau yr un fath drwy Gymru a Lloegr i gyd. Gall dehongliad y rheoliadau amrywio ychydig, fodd bynnag, o ardal i ardal.

Rhoi adborth ar y tudalen hon