Mae dyfarniadau ac apeliadau’n ddwy weithdrefn sy’n gwneud darpariaeth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (CCC) (neu’r Ysgrifennydd Gwladol yn Lloegr), fel y bo’n briodol, ddyfarnu mewn anghydfod rhwng pobl sy’n gwneud gwaith adeiladu sy’n destun y Rheoliadau Adeiladu a chorff rheoli adeiladu (h.y. Cyngor Sir Ddinbych, awdurdod lleol arall neu arolygydd a gymeradwywyd gan y sector preifat).
Mae pwrpas a gweithdrefnau dyfarniadau, ac apeliadau yn erbyn gwrthodiad awdurdod lleol i lacio neu hepgor gofyniad, yn gyfan-gwbl wahanol, ac mae hi’n bwysig, os ydych yn ystyried eu defnyddio, bod â dealltwriaeth glir o’r naill a’r llall.
Cyn bwrw ymlaen â chais am ddyfarniad, neu gais i lacio neu hepgor gofyniad, mae hi’n bwysig ichi geisio dod i gytundeb drwy drafod y materion sy’n achosi’r anhawster o ran sicrhau cydymffurfiad gyda Rheolwr Rheoli Adeiladu Cyngor Sir Ddinbych. Os yn briodol, ac os nad ydych wedi gwneud hynny’n barod, efallai yr hoffech geisio cyngor proffesiynol annibynnol i gynorthwyo’r trafodaethau hyn. Dim ond os na ellir dod i gytundeb y dylech chi wedyn ystyried ai’r ffordd gywir o weithredu yw bwrw ymlaen â chais i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am ddyfarniad, neu wneud cais i’r Cyngor am laciad/ollyngiad (gyda’r opsiwn o apelio i Gynulliad Cenedlaethol Cymru os digwydd y caiff ei wrthod).
Beth yw Dyfarniadau?
Penderfyniadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (ar gyfer achosion sy’n codi yn Sir Ddinbych, neu’n rhywle arall yng Nghymru), neu’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gymunedau a Llywodraeth Leol (ar gyfer achosion sy’n codi yn Lloegr) i helpu i ddatrys pethau pan fydd awdurdod lleol neu arolygydd cymeradwyedig yn dweud nad yw eich cynlluniau yn cydymffurfio ag un neu fwy o ofynion y Rheoliadau Adeiladu, ond eich bod chi’n credu eu bod, yw Dyfarniadau.
Beth yw llaciadau/gollyngiadau ac apeliadau?
Os cred Cyngor Sir Ddinbych, neu awdurdod lleol arall, fod eich gwaith adeiladu yn mynd yn groes i’r Rheoliadau Adeiladu, fe allant gyflwyno rhybudd gorfodi ichi yn mynnu eich bod yn newid neu’n gwaredu gwaith sy’n mynd yn groes i’r rheoliadau.
Os credwch chi na ellir disgwyl i’ch gwaith gydymffurfio ag un neu fwy o ofynion y Rheoliadau Adeiladu am eu bod yn rhy feichus neu am eu bod yn anghymwys, mae gennych yr hawl i wneud cais i’ch awdurdod lleol i lacio neu ollwng y gofyniad/gofynion dan sylw er mwyn ystyried bod y gwaith adeiladu a gwblhawyd gennych yn cydymffurfio.
Rhaid ichi wneud eich cais o fewn 28 diwrnod i dderbyn y rhybudd gorfodi gan eich awdurdod. Os byddant yn gwrthod eich cais mae gennych hawl i apelio i Lywodraeth Cynulliad Cymru (neu i’r Adran dros Gymunedau a Llywodraeth Leol, yn Lloegr) yn erbyn y gwrthodiad hwnnw, ar yr amod eich bod yn gwneud hynny o fewn mis i’r penderfyniad hwnnw.

Rhoi adborth ar y tudalen hon