| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Diogelwch y ffordd
Meddwl

Diogelwch y ffordd


Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio'n glos hefo Heddlu Gogledd Cymru mewn ymdrech i leihau damweiniau ar hyd 1400km o ffyrdd o fewn y Sir.


Caiff pob damwain eu cyfrif a'u hymchwilio i ganfod yr achos a nodi unrhyw dueddiad. Pan yn bosibl, caiff trefniadau peirianyddol eu rhoi mewn lle i leihau risg o unrhyw ddamweiniau yn y dyfodol.


Mae saith cynllun mewn lle o fewn Sir Ddinbych i godi ymwybyddiaeth o yrwyr, beicwyr modur a cherddwyr a hyrwyddo diogelwch y ffordd.


Caiff rhai o'r cynlluniau hyn eu hyrwyddo ar y cyd ag Awdurdodau eraill Gogledd Cymru ac eraill sy'n rhan o ymgyrchoedd cenedlaethol.


Y cynlluniau cyfredol yw :

Pass Plus Cymru
Ydych chi wedi pasio eich prawf gyrru o fewn y flwyddyn ddiwethaf ?
.... Darganfod mwy o dechnegau gyrru, cynghorion am ddim ond £20 (os ydych rhwng 17 a 25 ac yn byw yng Nghymru).
Mae'r hyfforddiant yn canolbwyntio ar yrru,

  • Mewn trefi
    Ar ffyrdd gwledig
    Ym mhob tywydd
    Ar ffyrdd deuol a modurffyrdd
    Yn y tywyllwch

I gael mwy o wybodaeth  cliciwch ar y linc ar y chwith o'r dudalen hon.


Asesiad am ddim i bobl dros 55 oed


Gall dynion a merched 55 a throsodd gael asesiad gyrru am ddim gan y gwasanaeth Wales Mobility and Driving Assesment Service.


Cliciwch ar y linc ar waelod y dudalen hon i gael mwy o wybodaeth a ffurflen gais.


Arrive Alive


Lansiwyd partneriaeth Gogledd Cymru yn 2001. Ei nod yw gwneud ffyrdd Gogledd Cymru yn fwy diogel trwy annog pobl i aros o fewn y cyfyngiad cyflymder, lleihau damweiniau ac wedyn lleihau'r nifer o bobl sy'n cael eu lladd neu eu hanafu.


Beicio'n ddiogel


Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cefnogi Bikesafe, cynllun a redir gan Heddlu Gogledd Cymru o amgylch y DU sy'n gweithio hefo'r holl fyd beicio i leihau'r nifer o bobl gaiff eu lladd oherwydd damweiniau ar feiciau modur.


 

Ymlyniadau
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0