Cyflwyniad i Archwiliadau
O dan y Rheoliadau Adeiladu, mae’n rhaid ichi roi gwybod i’r Cyngor ar yr adegau o’r gwaith adeiladu a ddangosir isod. Prif bwrpas y nodiadau hyn yw dangos maint a safon y gwaith sydd ei angen er mwyn i’r Swyddog Rheoli Adeiladu allu ei dderbyn. Nodwch os gwelwch yn dda fod y Ddeddf Adeiladu yn caniatáu i Swyddog Rheoli Adeiladu archwilio unrhyw ran o’r gwaith adeiladu, ac felly nid yw wedi’i gyfyngu i’r adegau canlynol yn unig:
1. Cychwyn (48 awr cyn cychwyn).
Fel arfer bydd archwiliad ond yn cael ei wneud ar yr adeg yma pryd y rhagwelir na fydd unrhyw un o Adegau 2 i 7 yn berthnasol. Fe all y Swyddog Rheoli Adeiladu ddefnyddio’r cyfle hwn hefyd i drafod y cynigion gyda’r Ymgeisydd/Perchennog neu’r Adeiladydd.
2. Cloddio ar gyfer sylfeini (24 awr cyn concritio).
Bydd dyfnder y cloddio’n cael ei benderfynu gan y math o isbridd. Mae lled y cloddio hefyd yn cael ei benderfynu gan y math o isbridd a gan y pwysau disgwyliedig y bydd y gwaith adeiladu yn ei osod arno. At ddibenion archwilio, dylai’r cloddiadau i gyd fod yn rhydd rhag unrhyw rwbel a dŵr, a dylent fod yn wastad. Gall amrywiadau yn y mathau o isbridd olygu bod rhaid atgyfnerthu. Ble mae lleinsylfeini yn risiog, dylai hyd y gorgyffyrddiad fod yn 300mm neu’n ddyfnder y gris, pa un bynnag yw’r mwyaf. Fe all yr isbridd oddi tan y llawr arfaethedig gael ei archwilio yr adeg yma hefyd.
3. Sylfeini (24 awr cyn gorchuddio).
Dylai’r Swyddog Rheoli Adeiladu allu gweld y cyrsiau cyntaf o feini, wedi’u gosod ar y sylfeini concrit cyn bod unrhyw ddefnydd yn cael ei adlenwi y ddwy ochr, er mwyn iddo allu penderfynu bod y sylfeini wedi’u llwytho’n gywir a bod y concrit a’r meini cywir wedi’u defnyddio. Nodwch os gwelwch yn dda, oni bai fod mesurau amddiffyn rhag radon wedi’u dangos ar y cynlluniau a gymeradwywyd, y bydd angen i’r holl sympiau a chwndidau gael eu harchwilio yr adeg yma.
4. Defnyddiau a osodir dros y safle (24 awr cyn gorchuddio).
Ble nad oes bwriad defnyddio ynysydd o dan y llawr, dylai unrhyw bilen wrth-damp fod yn ei lle, ar sail craidd caled a gywasgwyd yn dda ac sydd wedi’i thywodi’n briodol (nodwch os gwelwch yn dda mai prif bwrpas yr haen o dywod yw diogelu’r bilen rhag graean miniog a ble mae’r graean yn cynnwys digon o ronynnau mân, nid oes angen haen ychwanegol o dywod). Ble mae ynysydd i’w ddefnyddio oddi tan slab y llawr, rhaid cymryd gofal i sicrhau bod y craidd caled yn wastad a llyfn, neu fel arall byddai yna wagleoedd rhwng y bwrdd ynysu anhyblyg a’r tonnau yn y craidd caled. Fel arfer gellir gosod yr ynysydd uwchben neu oddi tan y bilen ond mae’i osod oddi tan y bilen yn dileu’r angen am haen o dywod ar y craidd caled ac yn osgoi problemau gyda’r ynysydd yn arnofio. Mae dyfnder y slab concrit arfaethedig yn cael ei edrych yr adeg yma hefyd.
5. Cyrsiau gwrth-damp (24 awr cyn gorchuddio).
Ar gyfer yr archwiliad hwn, dylai’r Swyddog Rheoli Adeiladu allu gweld y Cwrs Gwrth-Damp ym mhob wal gyda’r ychydig gyrsiau cyntaf wedi’u gosod uwch ei ben. Bydd yn edrych hefyd fod unrhyw geudodau waliau yn ymestyn i’r dyfnder cywir oddi tan y Cwrs Gwrth-Damp a bod y Bilen Wrth-Damp a’r/neu’r tanciad wedi’i lapio’n dda o dan ddefnydd y cwrs gwrth-damp.
6. Draeniau cyn adlenwi (24 awr cyn gorchuddio).
Dylai’r cyfan o’r system ddraenio (dŵr budr a dŵr wyneb) fod yn weladwy - yn cynnwys yr holl gwterydd a chysylltiadau - er mwyn gallu edrych y canlynol: defnydd peipiau; gwely’r peipiau; sythder; digonoldeb y disgyniad; digonoldeb cysylltiadau rhwng hydau draeniau.
7. Gorchuddio draeniau.
Mae’n beth doeth ichi gynnal y draeniau ar brawf aer neu ddŵr, tra byddan nhw’n cael eu hadlenwi er mwyn gallu canfod unrhyw ollwng dŵr, a achoswyd gan adlenwi. Byddai’n well gan y Swyddog Rheoli Adeiladu weld y system yn cael prawf aer neu ddŵr ar ôl i’r ffosydd draeniad gael eu llenwi’n llwyr, h.y. pan fydd y draeniau’n gweithio o dan yr amodau gweithio arferol. D.S. Fe all yr archwiliad hwn gael ei wneud yn ystod yr archwiliadau cwblhau a/neu symud i mewn i fyw.
8. Adeiladu cyn plastrfyrddio.
Yn ogystal ag adegau 1 i 7 a 9 i 10, os yw’r gwaith yn cael ei wneud dan y drefn Rhybudd Adeiladu, neu os nad yw wedi’i gymeradwyo’n llawn dan y drefn Cynlluniau Llawn, mae hi’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i Reoli Adeiladu er mwyn archwilio’r gwaith yr adeg yma. Mae’r eitemau adeiladu yn cynnwys yr holl waliau newydd, lloriau, linteli, toeau, cryfhad a strapin a gwaith trydan.
9. Symud i mewn i fyw cyn cwblhau (dim llai na 5 diwrnod cyn symud i mewn i fyw).
Os ydych yn dymuno byw yn/defnyddio’r adeilad cyn iddo gael ei gwblhau’n llwyr, bydd angen i’r Swyddog Rheoli Adeiladu wneud archwiliad tebyg i 8 uchod, fel bod modd penderfynu a yw’r gwaith yn addas i’w ddefnyddio.
10. Cwblhau gwaith (dim mwy na 7 diwrnod ar ôl cwblhau).
Pan fydd yr holl waith adeiladu wedi’i gwblhau, bydd y Swyddog Rheoli Adeiladu yn ei archwilio, i sicrhau ei fod:
(a) wedi’i wneud yn unol â’r cynlluniau a adneuwyd a/neu
(b) ei fod yn cydymffurfio â’r Rheoliadau. Bydd angen i’r Swyddog Rheoli Adeiladu gael mynediad llawn at du allan ac at du mewn yr adeilad a ble mae angen,
at du mewn y to, os oes agorfa wedi’i darparu (byddai’n cyflymu’r broses archwilio pe bai gennych ysgol ar y safle i’r diben hwn).
Mae’n arferol i archwiliadau canolradd eraill gael eu gwneud, er enghraifft i archwilio gwaith dur saernïol a choed y lloriau/to. Bydd y Swyddog Rheoli Adeiladu yn gallu eich cynghori a oes angen hyn. Fe all y Swyddog Rheoli Adeiladu alw hefyd ar amseroedd eraill i edrych y gwaith sydd ar fynd.
Y cyfnod amser mewn cromfachau yw faint o hysbysiad y mae rhywun sy’n gwneud y gwaith yn gorfod ei roi i’r cyngor yn ôl y gyfraith. Yn ymarferol mae hi’n bosibl fel arfer i archwiliad gael ei wneud ar yr un diwrnod ag y rhoddir hysbysiad, ar yr amod ei fod yn cael ei dderbyn cyn 10:30am y diwrnod hwnnw.

Rhoi adborth ar y tudalen hon