| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Nodiadau Pwysig Ynghylch Archwiliadau

Dylech fod yn ymwybodol o bwrpas a chyfyngiadau archwiliadau Rheoli Adeiladu. Y rheswm y mae’r Swyddog Rheoli Adeiladu yn gwneud archwiliadau yw sicrhau bod gofynion y Rheoliadau Adeiladu yn cael eu cwrdd. Ni fydd rhaid ichi wneud dim oni bai fod angen hynny er mwyn sicrhau safonau iechyd a diogelwch rhesymol.

Nid oes gennym yr adnoddau dim ond i alw ar safle i gynnig cyngor i adeiladwyr, perchnogion cartrefi, ymgeiswyr neu ddylunwyr, neu i gynorthwyo gyda datrys problemau’n gysylltiedig ag adeiladu ar safle. Fe all tâl am unrhyw geisiadau am archwiliad, y mae’n dod yn hysbys yn ddiweddarach eu bod ond yn geisiadau am ein cyngor, gael ei godi arnoch chi/eich cleient, yn unol â chynllun taliadau’r Cyngor.

Yn achos cais Rhybudd Adeiladu, ni fydd y Syrfëwr Rheoli Adeiladu yn dweud wrthych sut i wneud y gwaith yn ystod ei ymweliad cyntaf neu unrhyw ymweliad dilynol. Er ein bod bob amser yn fodlon cynnig help a chyngor, ni ddylech ddisgwyl defnyddio’r Swyddog Rheoli Adeiladu fel rhywun yn lle pensaer neu ddyluniwr. Os nad ydych yn hyderus eich bod chi (neu’ch adeiladydd) yn hollol gyfarwydd â gofynion y rheoliadau, yna byddem yn cynghori’n gryf nad ydych yn defnyddio cais Rhybudd Adeiladu.

Nid yw archwiliadau Rheoliadau Adeiladu yn addas yn lle goruchwyliaeth pob dydd safle. Dylech gyflogi rhywun proffesiynol annibynnol i oruchwylio rheolaeth ansawdd a materion cytundebol preifat eraill rhwng chi a’ch adeiladydd, os teimlwch chi fod angen gwneud hynny.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0