| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Anhapus ynghylch y penderfyniad?

Pa gamau allaf i eu cymryd os wyf yn anhapus ynghylch y penderfyniad yn ymwneud â’m cais?

Mae’r 'person a effeithir' (yr hawlydd ac mewn rhai achosion prin y landlord) yn cael cyflwyno cais am adolygiad o fewn un mis calendr i’r dyddiad y rhoddwyd gwybod am y penderfyniad. Rhaid i hyn gynnwys rhesymau paham y mae’r person yn anghytuno â’r penderfyniad. Fel arfer bydd rhywun gwahanol i’r sawl a wnaeth y penderfyniad cyntaf ar eich cais, yn edrych ar eich cais eto, i weld a oes angen newid.

Yna byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod ichi beth yw canlyniad hyn. Os ydych yn dal i fod yn anhapus â’r penderfyniad, mae gennych yr hawl bellach i apelio at y Gwasanaeth Tribiwnlysoedd,  nad yw’n rhan o’r Cyngor, o fewn un mis calendr pellach.

Gellwch ofyn inni am eglurhad ysgrifenedig manwl ynghylch sut y mae’ch budd-dal wedi’i weithio allan ar unrhyw adeg. Ond os ydych yn dymuno apelio, mae’r terfynau amser a grybwyllwyd eisoes yn dal yn berthnasol.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0