| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Gordaliadau
morthwyl

Gordaliad yw'r swm o fudd-dal sydd wedi'i dalu pan nad oedd hawl iddo o dan y Rheoliadau
Esiampl fyddai pe bai'r un sy'n hawlio ddim yn dweud wrth y Cyngor bod eu hincwm wedi codi a bod ail gyfrifo eu hawl yn golygu eu bod wedi derbyn gormod o fudd dal.
Gall gordaliad trwy dwyll ddigwydd pan fo person yn fwriadol yn darparu dogfennau ffug neu dystiolaeth ffug neu yn fwriadol yn peidio sôn am newid mewn amgylchiadau gyda'r bwriad o gael neu gadw'r budd dal.


Sut mae'r Cyngor Sir yn delio hefo gordaliadau?
Mae'r rheolau am weinyddu gordaliadau Budd-dal yn cael eu cynnwys yn y rheoliadau Budd-dal Tai ac mewn deddfwriaeth ddilynol. Mae gan y Cyngor Sir ddyletswydd i weithredu'r ddarpariaeth gyfreithiol yma ac mae ganddo ddyletswydd i gasglu gordaliadau yn ôl gan denantiaid a thirfeddianwyr.
Gall y Cyngor Sir benderfynu cymryd mesurau troseddol yn erbyn gordaliadau a wnaed trwy dwyll.


Gan bwy y gellir hawlio arian yn ôl?
Gellir hawlio gordaliad yn ôl gan naill y person a achosodd y gordaliad neu'r person a dderbyniodd y gordaliad.


Beth fydd yn digwydd os na thelir gordaliad yn ôl ?
Os bydd anfoneb a anfonwyd at dirfeddiannwr yn parhau heb ei ad-dalu neu os na chedwir at gytundeb i ad-dalu'r ddyled dros gyfnod o amser yna gall y Cyngor Sir gymryd camau trwy'r Llysoedd Barn.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0