| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Cyngor Safonau Masnach i Fusnesau

Os ydych yn gweithredu busnes fe allwch, ar ryw adeg, ddisgwyl ymweliad gan swyddog safonau masnach.  Bydd amlder yr ymweliadau â chi yn dibynnu ar natur eich busnes a maint y mewnbwn/allbwn. 

Pan fydd ‘archwiliwr yn galw’ fe all fod fel rhan o ymweliad a drefnwyd, yn ymweliad dilynol, yn ymateb i rybudd cenedlaethol, i gynghori o newid arwyddocaol yn y gyfraith neu o ganlyniad i gais am gymorth neu dderbyn cwyn.

Fe fyddwn yn gweithio fel ag i darfu cyn lleied ag sydd bosib ar eich gwaith ond byddwn hefyd yn disgwyl lefel resymol o gydweithrediad gan y busnes.

Mae safonau masnach yn wasanaeth gorfodi ond dim ond pan fydd popeth arall wedi methu y byddid yn erlyn.  Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau byddwn yn ceisio gweithio gyda busnes i sicrhau eu bod yn gweithredu’n iawn cyn i broblem godi neu cyn i bethau fynd yn rhy gymhleth i gael eu datrys yn hawdd.

Mae’r Cysylltiadau Allanol yn darparu cyngor generig a phenodol i fusnesau

Gwybodaeth Safonau Masnach ar gyfer Busnesau Newydd

Amcan Safonau Masnach yw nid i erlyn busnesau ond yn hytrach gynnig canllawiau a chyngor i sicrhau cydymffurfiad gyda gofynion y ddeddf fasnachu.  Wedi dweud hynny, nid ydym i gael ein defnyddio yn lle cyflogi ymgynghorwyr busnes neu gael cyngor a gynigir drwy aelodaeth o gymdeithas fasnachu neu grŵp busnes.


Efallai y byddwch yn cael ymweliad gennym o ganlyniad i ni dderbyn cwyn am eich busnes neu efallai y bydd ond yn archwiliad arferol.


Gall weithredu busnes ymddangos yn ddyrys ac yn gymhleth a’r peth olaf y bydd arnoch ei angen yw deddfwriaeth flinderus.  Y gobaith yw y bydd eich profiad o Safonau Masnach yn bositif ac o fudd.  


 

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0