Grantiau cyfleusterau i'r anabl
Mae'r grantiau hyn ar gael i dalu costau gwaith addasu o dan ofyniad statudol ac yn ôl deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 a addaswyd gan y Gorchymyn Rheoleiddio Diwygio 2002.
Disgrifiad
Rhoddir grantiau tuag at gost gweithiau megis cael cyfleusterau cawod hefo mynediad lefel, grisiau lifft, rampiau ac mewn rhai amgylchiadau darparu estyniad i ddarparu cyfleusterau llawr gwaelod.
Cyllid
♦ grant hyd at £30,000
Amodau
♦ dim amodau.
Pwy sy'n cymhwyso
♦ pobl sydd wedi cofrestru neu a all gofrestru'n anabl.
♦ rhaid i bob cais am grant cyfleusterau anabl gael eu cefnogi gan adroddiad gan y therapydd galwedigaethol.
♦ bydd prawf adnoddau'n penderfynu ar gyfraniad yr ymgeiswyr. Nid fydd angen hynny os gwneir addasiadau er budd plant.
Caiff y ceisiadau eu trin yn ôl trefn eu derbyn ar wahân i achosion brys.
Bydd y gwasanaethau tai ac adnewyddu ardal yn delio hefo grantiau tai sector preifat a byddant yn gweinyddu nifer o grantiau.

Rhoi adborth ar y tudalen hon