| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Rheoliadau Adeiladu
Approved Documents

Mae’r Rheoliadau Adeiladu yn berthnasol yng Nghymru a Lloegr a nhw yw’r safonau derbyniol isaf posibl, sy’n rheoli dyluniad ac adeiladwaith y rhan fwyaf o adeiladau newydd a gwaith adnewyddu yn y wlad hon. Maen nhw’n diogelu preswylwyr adeiladau ac aelodau’r cyhoedd yn erbyn peryglon i iechyd neu ddiogelwch personol, yn cyfrannu’n sylweddol at arbed ynni ac yn sicrhau bod mynediad rhesymol i adeiladau yn cael ei ddarparu ar gyfer pobl anabl.

Mae’r rheoliadau’n berthnasol i’r rhan fwyaf o adeiladau newydd a llawer o newidiadau i adeiladau sydd mewn bod, boed nhw’n rhai domestig, masnachol neu ddiwydiannol, a’u bwriad yw hyrwyddo:

Safonau ar gyfer y rhan fwyaf o’r agweddau ar adeiladwaith adeilad, yn cynnwys ei saernïaeth, diogelwch tân, ynysiad sŵn, draeniad, gwyntylliad a diogelwch trydanol. Ychwanegwyd diogelwch trydanol yn Ionawr 2005 i leihau nifer y marwolaethau, anafiadau a thanau a achosir gan osodiadau trydan diffygiol.


Effeithlonrwydd ynni mewn adeiladau. Bydd y newidiadau i’r rheoliadau ar arbed ynni,  a ddaeth i rym ar 6 Ebrill 2006, yn arbed miliwn tunnell o garbon y flwyddyn erbyn 2010 ac yn helpu i ymladd newid yn yr hinsawdd.


Anghenion pawb, yn cynnwys y rheini gydag anableddau, wrth fynd i mewn i a symud o amgylch adeiladau. Maent yn gosod safonau i adeiladau fod yn hygyrch a heb beryglon ble bynnag y bo’n bosibl.
 
Mae’r ddeddfwriaeth yn darparu’r fframwaith ar gyfer y system Rheoli Adeiladu, a chaiff y gofynion eu mynegi mewn termau ymarferol cyffredinol, er mwyn rhoi’r hyblygrwydd mwyaf posibl i ddylunwyr ac adeiladwyr. Yn sail i’r rheoliadau mae dogfennau cyfarwyddyd technegol, a elwir yn 'Ddogfennau Cymeradwyedig' sydd ar gael i’w llwytho i lawr, isod, ac sy’n dweud sut mae cydymffurfio â’r Rheoliadau. Mae dulliau eraill i ddangos cydymffurfiad ar gael.

Mae hi er lles pob cleient fod dylunwyr a chontractwyr yn gwneud yn siŵr fod yr adeiladau a godant yn cydymffurfio â’r gofynion statudol. Mae’r rhan fwyaf o ddylunwyr yn ystyried oblygiadau’r Rheoliadau Adeiladu yng nghyfnodau cynnar iawn y dylunio, a’r holl ffordd drwy’r cyfnod adeiladu mae cleientiaid yn gwerthfawrogi rôl arwyddocaol Rheoli Adeiladu yr Awdurdod Lleol.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0