Anifeiliaid Marw
Anifeiliaid Marw
Gwnaiff y Gwasanaethau Amgylcheddol gasglu a chael gwared o anifeiliaid mawr a ganfyddir ar y ffyrdd neu mewn mannau cyhoeddus eraill. Darperir y gwasanaeth hwn er diogelwch defnyddwyr y ffyrdd ac i ddiogelu iechyd y cyhoedd.
Nid yw’r Cyngor yn dod i gasglu anifeiliaid bach gan mai prin yw’r risg i ddiogelwch y ffyrdd neu iechyd y cyhoedd. Gall nôl anifeiliaid marw oddi ar y ffordd fod yn beryglus felly mae’n well gennym ganiatáu i natur wneud ei gwaith yng nghyswllt anifeiliaid bach. Nid oes gan y Cyngor yr adnoddau i gasglu a chael gwared o bob anifail sy’n marw mewn man cyhoeddus.
Mae’r anifeiliaid y gwnawn eu casglu yn cynnwys:
- Ceirw
- Moch daear
- Llwynogod
- Dyfrgwn
- Defaid
- Cŵn
- Cathod
- Elyrch
- Morfilod
- Dolffiniaid
- Llamhidyddion
- Morloi
- Anifeiliaid sy’n FWY na’r rhain
Mae’r anifeiliaid NA WNAWN eu casglu yn cynnwys:
- Cwningod
- Sgwarnogod
- Carlymau
- Wencïod
- Llygod mawr
- Ffesantod
- Gwylanod y môr
- Colomennod
- Hwyiaid
- Anifeiliaid sy’n LLAI na’r rhain

Rhoi adborth ar y tudalen hon