Y Sir yn gartref i wobr tai
Mae Tim Strategaeth Tai Fforddiadwy Cyngor Sir Ddinbych yn dathlu ar ôl ennill gwobr anrhydeddus o fewn y diwydiant tai.
Derbyniodd y tim y wobr Darparu Dewis Tai a Thai Fforddiadwy yn seremoni gwobrau UK Housing yng ngwesty'r Hilton yn Llundain, er eu bod nhw yn erbyn cystadeluaeth gref gan Gaerdydd, Birmingham, Notting Hill a Sentinel.
Roedd y Cyngor hefyd yn y rownd derfynol yn y categori Llwyddiant Arbenning mewn Tai yng Nghymru.
Dywedodd Ian Miller, y Prif Weithredwr: 'Mae'r ffaith i'r Cyngor ennill y wobr tai fforddiadwy yn genedlaethol yn y gwobrau hynod bwysig hyn yn anrhydeddu ymrwymiad ein staff yn y adrannau tai, cynllunio ac adran gyfreithiol, sydd wedi gweithio mor galed i ddarparu canllawiau er mwyn gwella safonau tai i bobl leol ar draws y sir.
'Nid dyma'r tro cyntaf i'r Cyngor gael enwebiad am wobr gan UK Housing- mae hwn yn dangos fod y diwydiant yn gweld y gwaith sy'n cael ei wneud yn Sir ddinbych yn esiampl o arfer da y dylid ei gymeradwyo ar lefel cenedlaethol./
'Hoffwn ychwanegu fy llongyfaerchion personnol i'r rheiny oedd ynghlwnm â'r llwyddiant hen.'

Rhoi adborth ar y tudalen hon