Crefft Croesi’r Ffordd
Crefft Croesi’r Ffordd
Mae hyn, a elwir yn ‘Kerbcraft’ yn Saesneg, yn dysgu plant 5-7 oed sut i fod yn fwy diogel wrth gerdded ar y palmant drwy fynd â nhw allan a defnyddio ffyrdd go iawn i ddangos sut y gall gwneud penderfyniadau synhwyrol ac ymddwyn yn gywir gynorthwyo i’w cadw’n ddiogel. Bydd y plant yn mynd o’r ysgol gyda gwirfoddolwyr wedi’u hyfforddi, mewn grwpiau o dri ar y mwyaf, i ddysgu tri prif sgil:
- Dewis llwybrau a mannau diogel i groesi’r ffordd – Cynorthwyir y plant i adnabod y peryglon ac adnabod mannau croesi amgen mwy diogel.
- Croesi’n ddiogel wrth geir wedi parcio - Addysgir y plant sut i ddefnyddio strategaeth ddiogel pan yn croesi wrth geir wedi parcio, pan nad oes modd eu hosgoi.
- Croesi’n ddiogel wrth gyffyrdd – Cyflwynir plant i’r problemau yn deillio o gyffyrdd syml a chymleth, gan ddysgu strategaeth ar gyfer edrych i bob cyfeiriad bob tro.
Dylai plant ifanc fod yng nghmwni oedolyn cyfrifol wrth ymyl y ffordd – hyd yn oed ar ôl derbyn yr hyfforddiant. Bydd eich anogaeth chi gyda’r sgiliau diogelwch ffyrdd hyn yn cynorthwyo eich plentyn i’w hymarfer a’u defnyddio yn rheolaidd.

Rhoi adborth ar y tudalen hon