| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Cynllun Gwella Hawliau Tramwy

Cynllun Gwella Hawliau Tramwy 

Mae’n ofynnol i bob awdurdod priffyrdd yng Nghymru a Lloegr baratoi a chyhoeddi Cynllun Gwella Hawliau Tramwy ar gyfer ei ardal.  Yn y pen draw bydd y Cynllun hwn yn cael ei ymgorffori yng Nghynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru er mwyn sicrhau bod y cyfraniad a wneir gan Hawliau Tramwy Cyhoeddus i drafnidiaeth, iechyd, hamdden a’r economi yn cael eu cydnabod yn llawn a’u hystyried ochr yn ochr â mentrau eraill, ac i sicrhau cysondeb o ran strategaeth ac adrodd yn ôl ar hynny. 

Beth yw’r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy?

Mae canllawiau’r Llywodraeth i awdurdodau priffyrdd ar lunio Cynllun Gwella Hawliau Tramwy yn ei gwneud yn ofynnol i Gynghorau asesu: 
• I ba raddau y mae’r hawliau tramwy lleol yn diwallu anghenion presennol y cyhoedd a’u hanghenion yn y dyfodol;
• Y cyfleoedd a ddarperir gan hawliau tramwy lleol (yn enwedig llwybrau troed, traciau beicio, llwybrau ceffylau a chilffyrdd) i gael ymarfer corff a hamddena yn yr awyr agored a mwynhau ardal yr awdurdod lleol; 
• Hygyrchedd hawliau tramwy lleol i bobl ddal neu rhannol ddall ac eraill â phroblemau symudedd;
• Unrhyw faterion eraill yn ymwneud â hawliau tramwy lleol, yn unol â chyfarwyddyd yr Ysgrifennydd Gwladol. 

Bydd Datganiad Gweithredu yn cael ei gynnwys yn y Cynllun, a fydd yn nodi sut mae’r awdurdod yn bwriadu rheoli a gwella hawliau tramwy lleol. 

Mae Fforwm Mynediad Lleol Sir Ddinbych wedi’i sefydlu drwy statud ac mae’n cynghori’r awdurdod ar faterion yn ymwneud â mynediad i gefn gwlad ac ymgynghorwyd gyda’r Fforwm yn ystod y broses o baratoi Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Sir Ddinbych, a bydd yn gweithredu fel prif ymgynghorydd ar y Cynllun drafft. 

Cynllun Gwella Hawliau Tramwy a Datganiad Gweithredu
 
Mae Uned Hawliau Tramwy'r Cyngor a'r Gwasanaeth Rheoli Cefn Gwlad wedi ymgynghori'n eang ymysg buddgyfranogwyr i gael barn ehangach ynglŷn ag a ydi'r gwasanaeth yn cyfarfod ag anghenion a dyheadau'r cyhoedd.  Rydym yn awyddus i weld a ydym yn gwneud cymaint ag a allwn i gyfarfod ag unrhyw angen nad ydym eto wedi ei nodi (Er efallai ei bod yn amhosib newid y ffordd a weithredwn yn sylweddol oherwydd cyfyngiadau a sefydlwyd drwy statud).  Yn dilyn hyn gofynnwyd i'r cyhoedd os teimlent fod ein casgliadau am y gwasanaeth a ddarparwn yn gywir ac yr oeddynt yn cytuno.  O hyn rydym yn awr wedi paratoi Cynllun Gwella Hawliau Tramwy a Datganiad Gweithredu drafft, i osod allan sut y mae'r awdurdod yn bwriadu rheoli mynediad i gefn gwlad dros y 10 mlynedd nesaf a'r blaenoriaethau y teimlwn y mae angen eu gwneud er mwyn dargludo’r gwasanaeth gorau posib.  Fel gyda phob strategaeth tymor hir bu'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn dargadw peth hyblygrwydd i ddelio â newidiadau sy'n codi yn y dyfodol (o newidiadau mewn statud neu flaenoriaethau cenedlaethol).
Mae'r cynllun Drafft yn awr ar gael. Cafodd y cynllun terfynol ei gymeradwyo ar 30 Medi  a chaiff ei gyhoeddi yma cyn gynted â phosib.


Adroddiad Asesu


Fe ddechreuodd ein hymgynghoriad yn niwedd 2006 pan archwiliwyd darpariaeth y rhwydwaith cyfredol i sefydlu unrhyw fylchau yn y rhwydwaith Hawliau Tramwy, maint y ddarpariaeth llwybrau i ddefnyddwyr gyda phroblemau symudedd ac yn y blaen.  Fe gysylltwyd â holl drigolion y sir gyda holiadur ym Mhapur Newydd yr awdurdod 'Llais y Sir' yn gofyn cwestiynau allweddol am eu ffyrdd hwy eu hunain o gael mynediad i gefn gwlad.  Rydym hefyd wedi siarad â busnesau, cynghorwyr lleol, rheolwyr tir, sefydliadau a defnyddwyr sydd â mynediad i gefn gwlad yn gylch gwaith, a hefyd â thirfeddianwyr ac aelodau etholedig i ymglymu'r grwpiau hyn ymhellach ym mhroses Cynllun Gwella Hawliau Tramwy.  Diolch i bawb a lenwodd ac a ddychwelodd un o'n Holiaduron - mae'r dadansoddiad data yn awr wedi ei goladu ac mae'r adroddiad asesu dilynol wedi ei gynhyrchu ac mae ar gael i unrhyw berson sydd am wybod mwy am yr asesiad.  Mae holl dablau data ac adroddiad terfynol yr asesiad ar gael isod er gwybodaeth.  Fe fydd y ddogfen hon yn ddefnyddiol i chi wrth ystyried y Cynllun Gwella Hawliau tramwy drafft a grybwyllwyd uchod.

Ymlyniadau
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0