Cwestiynau y gofynnir yn aml
Faint o amser gymer i gwblhau fy chwiliad? Rydym yn anelu at gwblhau a dychwelyd eich chwiliad o fewn 5 diwrnod gwaith.
A yw'r eiddo/tir yn dod o fewn Sir Ddinbych?
Os ydych yn anghyfarwydd â'r ardal, cysylltwch â’r tîm a rhoi manylion y cyfeiriad neu'r cod post, neu ffacsio cynllun o'r eiddo/tir atom.
Mae fy chwiliad yn dweud bod yr eiddo'n adeilad rhestredig; beth mae hyn yn ei olygu?
Mae hyn yn golygu bod yr eiddo o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, ac efallai bydd cyfyngiadau pan wnewch gais cynllunio.
A ydych yn gysylltiedig â'r NLIS (Gwasanaeth Gwybodaeth Tir Cenedlaethol)?
Ydym, rydym yn gysylltiedig ar lefel 2 (h.y. medrwn dderbyn chwiliadau electronig). Rydym yn gallu derbyn a gyrru chwiliadau electronig drwy'r system NLIS. Os hoffech wneud ymholiadau am berchenogaeth tir yn Sir y Dinbych cysylltwch â’r Gofrestrfa Tir yn Abertawe neu cysylltwch gyda Nlis Ltd. Gweler y linicau allanol ar ochr chwith i'r tudalen yma.
Mae fy chwiliad wedi dangos bod yr eiddo mewn Ardal Gadwraeth.
Mae hyn yn golygu efallai bod mwy o gyfyngiadau oherwydd yr Ardal Gadwraeth.
Mae hysbysiad gorfodi wedi ei ddangos ar fy chwiliad – a ellir ei ddileu?
Na, unwaith y bydd hysbysiad gorfodi wedi ei gyflwyno, mae'n aros ar y tir nes caiff ei ddileu gan Arolygydd Apeliadau Cynllunio neu rhoddir caniatâd cynllunio ar gyfer yr hyn y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag o.
Pryd fedraf ddod i mewn i wneud Chwiliad Personol?
Cyfyngir Chwiliadau Personol i 4 fesul Asiant. Ffoniwch yr adran Pridiannau Tir Lleol i wneud trefniadau.
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng Chwiliad Awdurdod Lleol a Chwiliad Personol?
Mae Chwiliad Personol yn cynnwys chwilio'r Gofrestr Pridiannau Tir Lleol yn unig. Nid yw atebion i Ymholiadau CON 29 yn cael eu darparu gan yr Awdurdod hwn fel rhan o'r broses Chwiliad Personol. Bydd Asiant Chwiliad Personol fel rheol yn ymchwilio'r wybodaeth sydd ei hangen ar y CON 29 trwy ymweld â rhai adrannau'n bersonol a dodi'r wybodaeth ynghlwm wrth dystysgrif LLC1 (chwiliad Cofrestr Pridiannau Tir Lleol). Gall hyn fod yn gamarweiniol a rhoi'r argraff bod chwiliad llawn wedi ei wneud.
Mae swyddogion Pridiannau Tir Lleol wedi eu hyfforddi ac yn alluog i ymgymryd â chwiliadau gydag atebion manwl, a byddant yn ymateb i ymholiadau mewn modd cwrtais, a darparu cyngor defnyddiol.


Rhoi adborth ar y tudalen hon