| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Parciau Ailgylchu

PARCIAU AILGYLCHU
Mae 5 Parc Ailgylchu yn Sir Ddinbych ym Mhrestatyn, y Rhyl, Dinbych, Rhuthun, a Carrog (Ger Corwen). Mae’r safleoedd hyn yn derbyn gwastraff t? yn unig, i'w waredu neu i’w ailgylchu.

VAN BAN

Gweithredir Van Ban ym mhob un o barciau ailgylchu Sir Ddinbych. Ni dderbynnir unrhyw wastraff masnach neu fusnes ym mharciau ailgylchu Sir Ddinbych.


Sbwriel Adeiladu, Briciau, Teiliau, Pridd
Nid yw'r gwastraff uchod yn cael ei gyfrif fel gwastraff domestig (hyd yn oed os yw'n tarddu o gartref) ac nid oes gan Sir Ddinbych unrhyw orfodaeth i dderbyn y math hwn o wastraff yn ei safleoedd. Rydym yn derbyn swm bach o'r gwastraff hwn ond dim mwy na 3 llond bag pob ymweliad. Os bydd angen cael gwared o fwy o'r math hwn o wastraff yna dylid hurio sgip gan gwmni trwyddedig.

ORIAU AGOR
Haf (Amser haf Prydain): Dydd Llun i Ddydd Gwener - 09:30 i 13:00 ac 13:30 to 17:30. Sadwrn/Sul - 10:00 i 13:00 ac 13:30 i 17:30.

Gaeaf (Amser cywir Greenwich): Pob dydd - 10:00 i 13:00 ac 13:30 i 16:00.

Wedi cau 25ain, 26ain Rhagfyr ac 1af Ionawr.

Ymlyniadau
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0