| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Mynediad i lan y môr
Mynediad i lan y môr

Mynediad i lan y môr - mynegi barn.


Mae mynediad arfordirol yn rhan o raglen gwella mynediad arfordirol Cymru. Mae hwn yn gynllun a noddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru trwy Gyngor Cefn Gwlad Cymru i wella mynediad i'r arfordir i gymunedau lleol ac ymwelwyr trwy wella llwybrau lleol gan gynnwys llwybrau cylch o amgylch yr arfordir . Mae'r Rhanbarth Arfordirol yn cynnwys tir sydd 2km o'r arfordir.

Amcanion
• gwella a chreu mynediad newydd i bobl anabl ac i  bramiau
• gwella a chreu llwybrau newydd i feicwyr a marchogwyr
• gwella hawliau cyhoeddus llwybrau sy'n cysylltu'r arfordir
 
Targedau Rhanbarth Arfordirol Cymru yw :
• Creu 80 km o fynediad newydd i gerddwyr
• 100km o fynediad newydd i feiciau
• 50km o fynediad newydd i farchogaeth
• 10% o lwybrau arfordirol i gael gwell mynediad i bobl hefo problemau symud
• gwell safon i lwybrau troed cyhoeddus o fewn y rhanbarth arfordirol
Y cynllun tymor hir yw creu llwybr arfordirol ardderchog, cynnwys holl arfordir Cymru a chysylltu'r teithiau presennol er mwyn creu llwybr arfordirol o amgylch Cymru gyfan erbyn 2012/13.

Mynegi barn
Peidiwch ag oedi cyn cysylltu os oes gennych syniadau am brosiectau posibl, neu leoliadau penodol sydd angen eu newid naill ai o fewn y rhanbarth neu lwybrau sy'n cysylltu â'r rhanbarth hwnnw.  Hyd yn oed os na ellir talu am bob prosiect a awgrymir, caiff pob cyfraniad ei ystyried at y dyfodol.

Manylion cyswllt:
01745 356197

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0