HomeSwapper
Cartref newydd, dechrau newydd? Mae ‘Homeswapper’ yn wasanaeth rhad ac am ddim i helpu tenantiaid Cyngor Sir Ddinbych, Cymdeithasau Tai Clwyd Alyn, Tai Clwyd a Cymru a’r Gorllewin i gyfnewid gyda thenant arall, naill ai’n lleol neu’n genedlaethol. Gallwch chwilio am gartrefi ar www.HomeSwapper.co.uk heb gofrestru ac mae'r canlyniadau chwilio hyd yn oed yn cynnwys mapiau i'ch helpu i weld lle mae’r cartref efallai yr hoffech ei gyfnewid ond ni cheir unrhyw fanylion cyswllt.
*Homeswapper yw’r gwasanaeth cyfnewid mwyaf yn y DU
*Gallwch gyfnewid gyda thenantiaid unrhyw Gyngor neu Gymdeithas Tai o fewn y DU
*Mae’n chwilio’n awtomatig bob nos am gyfnewidiadau newydd posibl – ar gyfartaledd mae 77% o ymgeiswyr yn cydweddu
*ae 2 allan o 3 ymgeisydd yn cael eu cydweddu gyda chyfnewid yn bosibl o fewn 24 awr, gyda’r ymgeisydd awdurdodedig yn gweld ar gyfartaledd 38 o eiddo cymwys.
Os byddwch yn cofrestru cewch y fantais awtomatig o chwiliad HomeSwapper bob nos am eiddo newydd a allai fod yn addas i chi a gallwch weld y rhain yn eich rhan breifat chi o'r wefan ar unrhyw adeg. Bydd HomeSwapper yn eich hysbysu pan geir eiddo a allai fod yn addas, trwy e-bost yn wythnosol (os oes gennych e-bost) neu neges testun bob pythefnos (os oes gennych ffôn symudol). Cofiwch, gallwch fynd ar y rhyngrwyd am ddim mewn llyfrgelloedd ledled Cymru ac efallai y gallai'r staff roi cymorth i chi pe byddai angen. Os nag oes gennych e-bost na ffôn testun gallwch ofyn am i'r manylion gael eu hanfon atoch yn ysgrifenedig trwy'ch landlord.
Mae’r cynllun yn darparu cydweddiad posibl i unrhyw denant y Cyngor / Cymdeithas Tai sydd eisiau trosglwyddo ac sy’n cyfarfod â’u meini prawf. Gallwch ddewis hyd at 9 ardal ble byddech yn ystyried byw.
Mae Homeswapper wedi bod yn llwyddiant ysgubol gyda thenantiaid Sir Ddinbych ac mae dros 200 o ymgeiswyr eisoes yn defnyddio’r cynllun. Mae hwn yn rhan allweddol o’r dull ehangach i hyrwyddo pobl i edrych ar yr holl ddewisiadau sydd ar gael i ddatrys eu problem tai.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’ch landlord yn uniongyrchol.Peidiwch ag anghofio – rhaid i chi beidio â chyfnewid eiddo heb ganiatâd ysgrifenedig yr holl Landlordiaid. Os byddwch yn cyfnewid heb ganiatâd, byddwch mewn perygl o golli eich holl hawliau i'r eiddo presennol a blaenorol.


Rhoi adborth ar y tudalen hon