Bikesafe
Lansiwyd Cynllun Beicwyr Modur Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru ym Mwyty’r Ponderosa ger Llangollen ar 11eg Mawrth 2008. Mae’r cynllun yn hyrwyddo beicio modur mwy diogel trwy gynnig gweithdai Bikesafe AM DDIM i feicwyr modur y Gogledd.
Josie Healy o Gyngor Sir Ddinbych, a gafodd y syniad o gynnig Gweithdai Bikesafe AM DDIM, yn ysgwyd llaw yn y lansio â Paul Cheshire, Rheolwr Prosiect Bikesafe yn y Gogledd
Beiciau modur Brigâd Dân Gogledd Cymru ym maes parcio Bwyty’r Ponderosa yn ystod lansio Bikesafe.
Dafydd Edwards, cadeirydd Grŵp Diogelwch ar Ffyrdd Gogledd Cymru, yn cyflwyno menter Bikesafe AM DDIM i’r wasg, cynghorwyr a’r cyhoedd yn y Ponderosa. Rhoddodd Richard Brunstrom, Prif Gwnstabl Gogledd Cymru, anerchiad byr hefyd i gefnogi’r fenter.
Mae lleoedd dan nawdd y Cyngor yn gyfyngedig ac yn cael eu cynnig ar sail y cyntaf i’r felin. Cysylltwch yn uniongyrchol â Paul Cheshire i gadw eich lle: Paul Cheshire Rheolwr Prosiect Bikesafe Ffôn 01492 517171 est 6170 - Symudol: 07990 634234 - e-bost: paul.cheshire@nthwales.pnn.police.uk
.
Rhoi adborth ar y tudalen hon