Gweithdai Bikesafe AM DDIM
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cydweithio gydag Awdurdodau Lleol eraill Gogledd Cymru i hyrwyddo Cynllun Beicwyr Modur Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru i gynnig gweithdai Bikesafe AM DDIM i feicwyr modur sy’n byw yn y Sir.
Mae 2 wahanol ddewis,
Gweithdy Bikesafe 2 Ddiwrnod AM DDIM
Cwrs 2 ddiwrnod ‘Sgiliau Rheoli ar y Ffordd’ ar gyfer beiciau modur gyda Bikesafe, yn cwmpasu dros 150 milltir gydag o leiaf 1 neu 2 asesiad / arddangosiad.
NEU
Gweithdy Bikesafe a FBoS 2 ddiwrnod AM DDIM
Cwrs 1 diwrnod ‘Sgiliau Rheoli ar y Ffordd’ ar gyfer beiciau modur ynghyd ag 1 diwrnod o gymorth cyntaf FBoS (Beic Cyntaf i Gyrraedd) cysylltiedig â beiciau modur.
I gael gwybod mwy neu gadw lle cysylltwch â
Paul Cheshire
Pencadlys yr Heddlu
Glan y Don
Bae Colwyn
LL29 8AW
Ffôn – 01492 510970
Symudol – 07990 634234
E-bost – paul.cheshire@nthwales.pnn.police.uk
Archebwch yn gynnar rhag cael eich siomi. Dim ond lle i ychydig sydd.



Rhoi adborth ar y tudalen hon