| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Gwaith a Digwyddiadau ar y Priffyrdd Cyhoeddus
fun in the street

Gwaith a Digwyddiadau ar y Priffyrdd Cyhoeddus

Cyngor Sir Ddinbych yw’r Awdurdod  Priffyrdd ac felly’n gyfrifol am awdurdodi, cydgysylltu a goruchwylio pob gwaith a digwyddiadau arbennig eraill o fewn y Priffyrdd Cyhoeddus.  Mae hyn er mwyn sicrhau fod pob gwaith yn cael ei weithredu i safon angenrheidiol, nad yw diogelwch y cyhoedd yn cael ei gyfaddawdu a bod y cyhoedd sy’n teithio’n cael eu haflonyddu cyn lleied ag sydd bosib.
Mae’r tudalennau hyn yn cynnwys gwybodaeth ar gyfer y cyhoedd yn gyffredinol ac ar gyfer cyrff proffesiynol fel datblygwyr a chontractwyr ar waith a digwyddiadau lle mae’n ofynnol hysbysu’r Cyngor Sir.

Mae rhaid i unrhyw un sydd am gloddio i’r Briffordd am ba reswm bynnag, yn cynnwys ymylon a throedffyrdd neu i godi arwyddion traffig dros dro neu ymgymryd ag unrhyw waith sy’n ardaro ar y Briffordd Gyhoeddus gydymffurfio â deddfwriaeth ‘Traffic Management Act 2004’ ~~(gweler y dudalen ar wahân)

Mae angen trwydded neu hawlen gan yr Awdurdod Priffyrdd ar gyfer unrhyw eitemau neu ddigwyddiadau a allai achosi rhwystr neu berygl i ddefnyddwyr y ffordd, p’run ai’n barhaol neu dros dro.  Mae hyn yn gymwys i’r ffordd a’r droedffordd yn ogystal ag ymylon priffyrdd.  Caiff arwyddion anawdurdodedig etc. eu symud o’r briffordd.  (Gweler y tudalennau ar wahân)


Mae angen trwydded neu hawlen gan Gyngor Sir Ddinbych ar gyfer sgipiau adeiladwyr, sgaffaldiau, goleuadau traffig dros dro, meinciau coffa, carnifal, partïon stryd, gorymdeithiau, rasys beic, digwyddiadau chwaraeon neu unrhyw ddigwyddiad arall a drefnir ac sy’n digwydd ar y briffordd gyhoeddus.  Ceir manylion am y rhain a’r taliadau perthnasol ar y tudalennau atodol.


Mae’n rhaid i bob mynediad i gerbydau ar draws ymylon neu droedffyrdd gael eu gwneud yn unol â Safonau Cyngor Sir Ddinbych ac achosion arbennig efallai y bydd angen Caniatâd Cynllunio.  (gweler y dudalen ar wahân)


Mae’n rhaid ymgymryd â dyluniad a gwneuthuriad unrhyw ffordd newydd neu ddarn o ffordd o fewn cytundeb ffurfiol, cyfreithiol a hynny i safon Cyngor Sir Ddinbych (gweler y dudalen ar wahân)


Mae’n rhaid i garnifal, partïon stryd a digwyddiadau eraill sy’n digwydd ar y briffordd gyhoeddus gael eu cymeradwyo ac fe godir tâl am gau ffyrdd, gwyriadau traffig ac am unrhyw arwyddion neu gonau sy’n angenrheidiol. (gweler y dudalen ar wahân).

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0